1A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu y bobl yn y Deml, ac yn efengylu, yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion, gyd â'r Henuriaid, a ddaethant yn ddisymwth arno,
2ac a lefarasant gan ddywedyd wrtho, Dywed i ni trwy ba fath awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? Neu pwy a roddodd i ti yr awdurdod hon?
3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minau a ofynaf i chwithau air, a dywedwch i mi:
4Bedydd Ioan, a'i o'r Nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5A hwy a ymresymasant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo?
6Ond os dywedwn, O ddynion; y bobl oll a'n llabyddiant i farwolaeth: canys y maent wedi eu llwyr‐ddarbwyllo fod Ioan yn Broffwyd.
7A hwy a atebasant, nas gwyddant o ba le.
8A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau ychwaith yn dywedyd i chwi drwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Dammeg y Llafurwyr Drwg[Mat 21:34–46; Marc 12:1–12]9Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon: Gwr a blanodd winllan, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth ymaith o'i wlad.
10Ac ar adeg briodol efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddant iddo o ffrwyth y winllan. Ond y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i danfonasant allan ymaith yn wag.
11Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall; a hwn hefyd, wedi ei guro a'i anmharchu, hwy a ddanfonasant allan ymaith yn wag.
12Ac efe a chwanegodd ddanfon trydydd: a hwn hefyd hwy a glwyfasant: ond odid y parchant hwn.
14Eithr pan welodd y llafurwyr ef, hwy a ymresymasant yn ddifrifol yn mhlith eu gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.
15A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan hyn.
17Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hyny yw hyn sydd wedi ei ysgrifenu:
Maen a wrthododd yr Adeiladwyr:—
Hwn a wnaed yn ben congl?
18Pob un a syrthio ar y maen hwnw a chwilfriwir ef fel llwch.
19A'r Ysgrifenyddion a'r Arch‐offeiriaid a geisiasant osod eu dwylaw arno yr awr hono; a hwy a ofnasant y bobl: canys gwybuant mae yn eu herbyn hwy y dywedodd efe y ddammeg hon.
Dyledswydd dynion at y Wladwriaeth, ac at Dduw[Mat 22:15–22; Marc 12:13–17]20A hwy a wyliasant gyfleu, ac a anfonasant allan gynllwynwyr, y rhai a gymmerent arnynt eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, fel y caent afael ar ei ymadrodd ef, i'w draddodi ef i'r Llywodraeth ac i Awdurdod y Llywydd.
21A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn dywedyd ac yn dysgu yn uniawn, ac nad wyt yn derbyn wyneb i Cesar, ai nid yw?
23Eithr efe yn darganfod eu cyfrwysdra hwynt, a ddywedodd wrthynt,
24Dangoswch i mi ddenarion? A hwy gan ateb a ddywedasant, Eiddo Cesar.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yna rhoddwch yn ol bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw.
26Ac nis gallasant gymmeryd gafael ar ei air ef gerbron y bobl, a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant.
Afresymoldeb Rhesymoliaeth: y Saduceaid[Mat 22:23–33; Marc 12:18–27]27A daeth ato rai o'r Saduceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes Adgyfodiad,
28a hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni:—
Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a'i fod ef yn ddi‐blentyn, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd i'w frawd.
29Yr oedd, ynte, saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blentyn.
30A'r ail,
31a'r trydydd a'i cymmerodd hi, a'r un modd hefyd y saith ni adawsant blant, ac a fuont feirw.
32Yn ddiweddaf bu farw y wraig hefyd.
33Yn yr Adgyfodiad gan hyny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? Canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
34A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn priodi ac yn rhoddi i briodas:
35ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gyrhaedd nod y byd hwnw, a'r Adgyfodiad o feirw, nid ydynt yn priodi nac yn rhoddi i briodas:
36canys chwaith nid ydynt yn gallu marw mwy; canys cydradd âg angelion ydynt, ac y maent yn Feibion i Dduw, gan eu bod yn Feibion yr Adgyfodiad.
37A bod y meirw yn cael eu cyfodi, hyd y nod Moses a awgryma
38Ond nid Duw dynion meirw ydyw ef, ond byw: canys y mae pawb yn fyw iddo ef.
39A rhai o'r Ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist.
40Canys ni feiddiasant o hyn allan ofyn dim iddo ef.
Mab ac Arglwydd Dafydd[Mat 22:41–44; Marc 12:34–37]41Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod y Crist yn Fab Dafydd?
42Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn Llyfr y Salmau,
Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
43Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.
44Y mae Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
Balchder a threisgarwch yr Ysgrifenyddion[Mat 23:1–7; Marc 12:38–40]45A'r holl bobl yn gwrando, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion,
46Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai ydynt awyddus i rodio mewn llaes‐wisgoedd, ac yn hoffi cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd; a'r brif‐gadair yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y Swperau;
47y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio; y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.