1A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megys wrth rai ysprydol, eithr wrth fel rhai o gnawd, megys wrth fabanod yng Nghrist.
2Mi a'ch porthais chwi â llaeth, nid â bwyd sylweddol; canys nid oeddech etto yn gryfion; na, nid ydych hyd y nod yn awr yn gryfion,
3canys yr ydych etto yn gnawdol: canys tra y mae yn eich plith chwi eiddigedd a chynnen, onid ydych chwi yn gnawdol, ac yn rhodio yn ol dyn?
4Canys pan ddywed un, Myfi wyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apollos, onid dynion ydych?
Yr hyn yw gweinidogion yr Efengyl.5Pa beth gan hynny yw Apollos? a pha beth yw Paul? Gweinidogion drwy y rhai y credasoch: a phob un fel y rhoddodd yr Arglwydd iddo.
6Myfi a blennais; Apollos a ddyfrhâodd; eithr Duw oedd yn rhoddi y cynnydd.
7Felly ynte nid yw yr hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoddi y cynnydd.
8Etto, yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un peth ydynt: ond pob un a dderbyn ei wobr ei hun yn ol ei lafur ei hun.
9Canys cydweithwyr â Duw ydym ni: amaethdir Duw, adeiladwaith Duw ydych chwi.
Y gwir sylfaen, a'r pwysigrwydd o iawn adeiladu.10Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen‐adeiladydd medrus myfi a osodais sylfaen; ac y mae arall yn adeiladu arno: ond edryched pob un pa fodd y mae yn adeiladu arni.
11Canys sylfaen arall ni all neb ei osod heb law yr un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
12Ac os yw neb yn adeiladu ar y sylfaen, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl,
13gwaith pob un a ddaw i'r amlwg; canys y dydd a'i gwna yn eglur, canys mewn tân y mae yn cael ei ddadguddio; a gwaith pob un pa fath ydyw, y tân ei hun a brawf.
14Os yw gwaith neb yn aros, yr hwn a oruwch‐adeiladodd efe, efe a dderbyn wobr.
15Os gwaith neb a losgir i'r llawr, efe a golledir: eithr efe ei hun a achubir, ond felly megys trwy dân.
Teml Dduw: cosp eu dinystrwyr.16Oni wyddoch mai Cyssegr Duw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch?
17Os oes neb yn dinystrio Cyssegr Duw, hwnnw Duw a ddinystria; oblegyd Cyssegr Duw sydd sanctaidd, a'r cyfryw ydych chwi.
18Na thwylled neb ei hun. Od oes neb yn tybied ei fod yn ddoeth yn eich mysg yn y byd hwn, aed yn ffol, fel yr elo yn ddoeth,
19Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw; canys y mae yn ysgrifenedig, —
Yr hwn sydd yn gafaelu yn y doethion yn eu cyfrwysdra.
20A thrachefn,
Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.
21Mewn canlyniad, na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth sydd eiddoch chwi:
22pa un bynnag ai Paul, ai Apollos, ai Cephas, ai y byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod: pob peth sydd eiddoch chwi;
23a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.