1A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel a chanddynt saith bla, y rhai diweddaf, canys ynddynt hwy y gorphennwyd llid Duw.
2A gwelais fel pe bae fôr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a'r rhai a ddaethant yn orchfygwyr oddiwrth yr Anghenfil, ac oddiwrth ei ddelw, ac oddiwrth rifedi ei Enw ef, yn sefyll wrth y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt.
3A chanu y maent Gân Moses, gwas Duw, a Chân yr Oen, gan ddywedyd,
Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd, Arglwydd Dduw yr Hollalluog;
Cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, Brenin y Cenhedloedd.
4Pwy nad ofna, O Arglwydd, ac na ogonedda dy Enw?
Oblegyd tydi yn unig wyt sanctaidd;
Oblegyd yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di;
Oblegyd dy weithredoedd cyfiawn di a amlygwyd.
Y Plâau yn dyfod o Nef agored.5Ac ar ol y pethau hyn y gwelais, ac agorwyd Cysegr Tabernacl y Dystiolaeth yn y nef;
6a daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt allan o'r Cysegr, wedi eu gwisgo â llian gwerthfawr, pur a disglaer, ac wedi eu gwregysu am eu dwyfronnau â gwregysau aur.
7Ac un o'r pedwar creadur byw a roddodd i'r saith angel saith phiol aur yn llawn o lid Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.
8A llanwyd y Cysegr o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei allu ef; ac ni allai neb fyned i'r Cysegr, nes gorphen saith bla y saith angel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.