1Yr henuriaid gan hynny yn eich plith yr wyf yn eu cynghori — yr hwn wyf gyd‐henuriad a thyst o ddyoddefiadau Crist, yr hwn wyf hefyd gyfrannog o'r Gogoniant ar fedr ei ddadguddio,
2— bugeiliwch braidd Duw y sydd yn eich plith, nid trwy gymhell, ond o wirfodd; nid er mwyn budr‐elw, ond â meddwl parod:
3nid fel yn arglwyddiaethu ar y rhai a ymddiriedwyd i'ch gofal, eithr gan fod yn esiamplau i'r praidd.
4A phan yr amlygir y Pen‐bugail, chwi a dderbyniwch anniflanedig Goron y Gogoniant.
5Yr un modd, y rhai ieuengach, byddwch ddarostyngedig i'r rhai hynach. Ie, ymwregyswch oll â gostyngeiddrwydd tu ag at eich gilydd; oblegyd y mae Duw yn gosod ei hun yn erbyn y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig.
Cynghorion diweddol.6Ymostyngwch gan hynny dan rymus law Duw, fel y'ch dyrchafo chwi mewn amser cyfaddas,
7gan fwrw eich holl bryder arno ef; canys y mae efe yn gofalu am danoch chwi.
8Byddwch sobr, gwyliwch. Y mae eich gwrthwynebwr Diafol, megys llew yn rhuo, yn rhodio oddi amgylch, yn ceisio rhyw un i'w draflyncu.
9Yr hwn gwrthsefwch yn gadarn yn y ffydd, gan wybod fod yr un dyoddefiadau yn cael eu cyflawnu gan y frawdoliaeth yn y byd.
10A Duw pob grâs yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, wedi i chwi ddyoddef am ychydig, efe ei hun a'ch adfera, a'ch cadarnhâ, a'ch nertha.
11Iddo ef y byddo'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12Gyda Silfanus, y brawd ffyddlawn, fel y cyfrifaf ef, yr ysgrifennaf atoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir râs Duw; sefwch ynddo.
13Y mae yr hon sydd gyd‐etholedig yn Babylon yn eich annerch, ac felly y mae Marc fy mab i.
14Anerchwch eich gilydd â chusan cariad.
Tangnefedd i chwi oll — y rhai sydd yng Nghrist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.