Rhufeiniaid 7 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Eglureb oddiwrth Briodas.

1Ai heb wybod yr ydych, frodyr (canys wrth rai sydd yn gwybod am ddeddf yr wyf yn dywedyd), fod y Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra byddo efe byw?

2Canys y wraig briod sydd wedi ei rhwymo gan ddeddf i'r gŵr tra byddo efe byw: ond os bydd y gŵr farw, rhyddhâwyd hi oddiwrth ddeddf y gŵr.

3Gan hynny, yn wir, a'r gŵr yn fyw, hi a ddyg yr enw o odineb‐wraig, os ä yn eiddo gŵr arall; ond os bydd y gŵr farw, y mae hi yn rhydd oddiwrth y ddeddf, fel nad yw hi yn odineb‐wraig, er ei bod yn eiddo gŵr arall.

4Gan hynny, fy mrodyr, chwithau hefyd a wnaed yn feirw i'r Ddeddf trwy gorph Crist, fel y byddoch eiddo un arall, yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.

5Canys pan oeddym yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy y Ddeddf, a weithient yn rymmus yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;

6ond yn awr, rhyddhâwyd ni oddiwrth y Ddeddf, wedi marw o honom i'r peth yn yr hwn y'n delid, fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb yspryd, ac nid yn hendra y llythyren.

Gwir Swyddogaeth y Ddeddf.

7Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw y Ddeddf? Na atto Duw. Eithr nid adnabum i bechod, oddi eithr trwy ddeddf; canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o'r Ddeddf, Na thrachwanta.

8Eithr pechod, wedi cael cychwyniad trwy y gorchymyn, a weithiodd yn rymmus ynof fi bob trachwant. Canys ar wahân â deddf y mae pechod yn farw.

9Ac yr oeddwn i yn fyw unwaith ar wahân â deddf, ond pan ddaeth y Gorchymyn yr adfywiodd pechod,

10ond myfi a fum farw; a'r Gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth:

11canys pechod, gan gael cychwyniad trwy'r Gorchymyn, a'm twyllodd yn hollol, a thrwy hwnnw a'm lladdodd.

12Gan hynny yn wir, y mae y Ddeddf yn sanctaidd, a'r Gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.

13Am hynny, a ddaeth yr hyn sydd dda yn farwolaeth i mi? Na atto Duw; eithr pechod, fel yr ymddangosai ei fod yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi, trwy yr hyn sydd dda, fel y byddai pechod trwy y Gorchymyn yn bechadurus dros fesur.

14Canys yr ydym yn gwybod fod y Ddeddf yn ysprydol; ond yr wyf fi yn gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod.

15Canys nid wyf yn gwybod yr hyn yr wyf yn ei weithredu; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gâs gennyf, hyn yr wyf yn ei wneuthur.

16Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf yn cydsynio â'r Ddeddf mai da yw.

17Ond yn awr, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu, ond y pechod sydd yn trigo ynof;

18canys gwn nad oes ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo: oblegyd yr ewyllysio sydd yn bresennol i mi, ond gweithredu y da, nid yw;

19canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei ymarfer.

20Ac os wyf yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof.

21Yn wir yr wyf yn cael y Ddeddf hon: I mi pan yn ewyllysio gwneuthur y da, i mi, meddaf, y mae y drwg yn bresennol.

22Canys ymhyfrydu yr wyf yng Nghyfraith Duw yn ol y dyn oddimewn,

23eithr yr wyf yn gweled deddf wahanol yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.

24O ddyn truenus ydwyf! pwy a'm gwared i allan o gorph y farwolaeth hon?

25Diolch yr wyf i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hynny, yn wir, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu deddf Duw, ond â'r cnawd, ddeddf pechod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help