1O Wyr Frodyr a Thadau, gwrandewch fy ymddiffyn presenol wrthych.
2Ac wedi clywed mai yn y briod‐iaith Hebraeg y llefarai wrthynt, hwy a roisant fwy o lonyddwch.
3A dywedodd, Myfi wyf wr o Iuddew, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, wedi fy meithrin yn y Ddinas hon, wedi fy egwyddori wrth draed Gamaliel yn ol manyldeb Cyfraith ein Tadau, o'r dechreu yn un selog dros Dduw, fel, yr ydych chwithau oll heddyw:
4yr hwn a erlidiais y Ffordd hon hyd angeu, gan rwymo a thraddodi i garcharau wyr a gwragedd hefyd,
5megys hefyd y mae yr Archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl Henaduriaeth: gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr oeddwn yn myned i Damascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerusalem, fel y cospid hwynt.
6Eithr dygwyddodd i mi wrth fyned a neshâu at Damascus ynghylch haner dydd, yn ddisymwth allan o'r nef dysglaeriodd goleuni tanbaid o'm hamgylch;
7a syrthiais ar y llawr, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid I?
8A minau a atebais, Pwy ydwyt, Arglwydd? A dywedodd wrthyf, Myfi wyf Iesu o Nazareth, yr hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
9A'r rhai oedd gyda mi yn wir a welsant y Goleuni, ond llais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf ni chlywsant.
10A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i Damascus, ac yno y dywedir i ti ynghylch yr holl bethau sydd wedi eu penodi i ti eu gwneuthur.
11A phan nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y Goleuni hwnw, gan gael fy arwain erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, daethum i Damascus.
12A rhyw Ananias, gwr bucheddol yn ol y Gyfraith, a thystiolaeth dda iddo gan yr holl Iuddewon oedd yn preswylio yno,
13a ddaeth ataf, ac a safodd uwch fy mhen
, ac a ddywedodd wrthyf, Frawd Saul, edrych i fyny. A myfi, yn yr awr hono, a edrychais i fyny arno.14Ac efe a ddywedodd, Duw ein Tadau ni a'th benododd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o'i enau ef:
15canys byddi dyst iddo wrth bob dyn o'r pethau a welaist ac a glywaist.
16Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, cymer dy fedyddio, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei Enw Ef.
17A dygwyddodd i mi, wedi dychwelyd i Jerusalem, a mi yn gweddio yn y Deml, syrthio mewn llesmair,
18a'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos yn glau allan o Jerusalem, o herwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf fi.
19A minau a ddywedais, Arglwydd, y rhai hyn a wyddant mai myfi oedd yn carcharu ac yn curo yn mhob Synagog y rhai sydd yn credu ynot Ti.
20A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy dyst ti, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.
21Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos, canys myfi a'th anfonaf di yn mhell at y Cenhedloedd.
Cynddaredd yr Iuddewon: Drwgdybiaeth y Milwriad.22A hwy a'i gwrandawsant hyd y gair hwn; a chodasant eu llef, gan ddywedyd, Ymaith â'r cyfryw un oddiar y ddaear, canys nid oedd gymhwys iddo fyw.
23Ac fel yr oeddent yn gwaeddi, ac yn taflu ymaith eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,
24gorchymynodd y Milwriad ei ddwyn ef i'r Gwersyll‐dy, gan orchymyn ei holi ef trwy fflangellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly ei erbyn.
25Ac wedi ei gylymu ar gyfer y fflangell, dywedodd Paul wrth y Canwriad oedd yn sefyll gerllaw, A'i cyfreithlawn i chwi fflangellu dyn sydd Rufeiniwr, ac heb ei gondemnio?
26A phan glybu y Canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r Milwriad, gan ddywedyd, Beth yr wyt ar fedr ei wneuthur? canys Rhufeiniwr yw y dyn hwn.
27A'r Milwriad a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniwr wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie.
28A'r Milwriad a atebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas‐fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, Ond myfi a anwyd iddi
.29Yn ebrwydd gan hyny y ciliodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef, a'r Milwriad hefyd a ofnodd pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniwr, a'i fod ef wedi ei rwymo.
30A thranoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod yn sicr am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iuddewon, efe a'i gollyngodd yn rhydd, ac a orchymynodd i'r Arch‐offeiriad a'r holl Sanhedrin ddyfod ynghyd, ac wedi dwyn Paul i waered, efe a'i gosododd ger eu bron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.