1Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, fy nghydwybod yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Yspryd Glân,
2fod i mi dristwch mawr a phoen dibaid i'm calon;
3canys dymunwn fod fy hun yn anathema oddiwrth Grist er mwyn fy mrodyr, fy nghyd‐genedl yn ol y cnawd,
4y rhai ydynt Israeliaid; eiddo y rhai yw y Mabwysiad, a'r Gogoniant, a'r Cyfammodau, a Rhoddiad y Ddeddf, a'r Gwasanaeth, a'r Addewidion;
5eiddo y rhai yw y Tadau, ac o'r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
Methiant Israel ac Addewidion Duw.6Eithr nid yw yr achos y fath ag i air Duw fod wedi syrthio i'r llawr; canys nid Israel yw pawb sydd o Israel;
7ac nid ydynt, oblegyd eu bod yn hâd i Abraham, i gyd yn blant, eithr, Yn Isaac yr enwir i ti hâd;
8hynny yw, nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw, eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd.
9Canys y gair hwn yw gair yr addewid, Yn ol y pryd hwn y deuaf, a bydd mab i Sara.
10Ac nid yn unig hyn, eithr Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, Isaac ein Tâd ni
11(canys a hwy heb etto eu geni, a gwneuthur o honynt dda na drwg Duw yn ol etholedigaeth sefyll,
12nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw) dywedwyd wrthi, Y mwyaf a wasanaetha y lleiaf;
13megys y mae yn ysgrifenedig, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseâis.
Nid oes Annghyfiawnder gyda Duw.14Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes annghyfiawnder gyda Duw? Na atto Duw
.15Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Trugarhâf wrth yr hwn y trugarhâwyf, a thosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
16Gan hynny, ynte, nid yw o'r hwn sydd yn ewyllysio, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith, ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhâu.
17Canys dywed yr ysgrythyr wrth Pharaoh, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot, ac fel y dadgenid fy enw yn yr holl ddaear.
18Felly gan hynny wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarhâ efe, a'r hwn a ewyllysia a galeda.
Cyfiawnder a Thrugaredd Duw.19Tydi a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe etto yn beio? Canys pwy a saif yn erbyn ei gynghor ef?
20Na, yn hytrach, O ddyn! pwy wyt ti yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywed y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn?
21Neu, onid oes awdurdod gan y crochenydd ar y clai, o'r un telpyn i wneuthur un rhan yn llestr i barch, ac i arall ammharch?
22Beth os Duw, er yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a gwneyd ei allu yn adnabyddus, a oddefodd gyda llawer o hir‐ymaros lestri digofaint wedi eu cymhwyso i golledigaeth:
23fel y gwnelai yn adnabyddus olud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a rag‐barottôdd efe i ogoniant,
24y rhai a alwodd efe hefyd, sef nyni, nid yn unig o'r Iuddewon, ond hefyd o'r Cenhedloedd?
Galwad y Cenhedloedd a Gwrthodiad yr Iuddewon.25Megys hefyd y dywed efe yn Hosea:
Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi yn bobl i mi:
A'r hon nid yw anwyl yn anwyl.
26A bydd, yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl ydych chwi,
Yno y gelwir hwy yn feibion y Duw byw.
27Esaia hefyd sydd yn llefain ar ran yr Israel,
Er pe byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, y gweddill a achubir;
28Canys yr Arglwydd a gyflawna ei air ar y ddaear, gyda llŵyrder a chyflymdra.
29Ac megys y dywedodd Esaia o'r blaen, Oni buasai i Arglwydd Sabaoth adael i ni hâd, fel Sodom y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorrah.
30Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd nad oeddynt yn dylyn cyfiawnder, wedi dod o hyd i gyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd;
31ond Israel gan ddylyn deddf cyfiawnder, ni ddaethant i fyny â'r ddeddf.
32Paham? O herwydd ni ddylynasant o ffydd ond megys o weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen‐tramgwydd,
33megys y mae yn ysgrifenedig:
Wele, yr wyf yn gosod yn Sion faen‐tramgwydd a chraig rwystr.
A'r hwn sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.