1Yn awr y mae ffydd yn sicrwydd y pethau y gobeithir am danynt, ac yn brawf o bethau ni welir;
2canys ynddi hi y tystiolaethwyd i'r henafiaid.
3Trwy ffydd y deallwn fod y bydoedd wedi eu ffurfio trwy air Duw, fel nad o'r pethau sydd yn y golwg y mae yr hyn a welir wedi dyfod.
Enghreifftiau o ffydd amryw‐weddog.4Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain, trwy yr hwn y tystiolaethwyd iddo ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu ar sail ei roddion, a thrwyddi hi, y mae, er marw o hono, yn llefaru eto.
5Trwy ffydd y symudwyd Enoch fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef oblegyd i Dduw ei symud; canys cyn ei symud y mae efe wedi derbyn tystiolaeth ei fod wedi boddloni Duw.
6Ac ar wahân i ffydd amhosibl yw ei foddloni ef, canys rhaid i'r hwn sydd yn nesâu at Dduw gredu ei fod, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sydd yn ei daer‐geisio ef.
7Trwy ffydd, Noah, wedi cael dadguddiad ynghylch y pethau nas gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ, trwy yr hon y condemniodd efe y byd, ac a ddaeth yn etifedd y Cyfiawnder, yr hwn sydd yn ol ffydd.
8Trwy ffydd, Abraham, pan yn cael ei alw, a ufuddhaodd i fyned allan i le yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth, ac a aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned.
9Trwy ffydd y bu yn ymdeithydd yng ngwlad yr Addewid megys gwlad estronol, gan drigo mewn pebyll, gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o'r un addewid;
10canys edrych allan ydoedd am y Ddinas ag iddi y sylfeini, cynllunydd ac adeiladydd yr hon yw Duw.
11Trwy ffydd hefyd hyd y nod Sara a dderbyniodd allu i ymddwyn hâd, ac wedi amser oedran, yn gymaint ag iddi gyfrif yn ffyddlawn yr hwn a addawodd.
12O herwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hynny pan yr oedd wedi marweiddio, megys ser y nef mewn lliaws, ac fel tywod ar draeth y mor, yn aneirif.
13Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt a'u cyfarch, a chan gyffesu mai estroniaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear;
14canys y mae y rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio eu gwlad eu hunain.
15Ac yn wir pe am honno y buasent yn meddwl, o'r hon y daethant allan, hwy a gaent gyfle i ddychwelyd.
16Eithr yn awr am un well y maent yn hiraethu, hynny ydyw un nefol; o herwydd paham nid oes ar Dduw gywilydd o honynt, i'w gyfenwi yn Dduw iddynt hwy, canys parotôdd ddinas iddynt.
17Trwy ffydd, Abraham, gan gael ei brofi, a offrymodd i fyny Isaac: ië, yr hwn a roesawodd yr addewidion oedd yn offrymu ei unig‐anedig,
18sef efe wrth yr hwn y dywedwyd, Yn Isaac y gelwir i ti hâd;
19gan gyfrif fod Duw yn alluog i gyfodi hyd y nod o feirw, o'r lle hefyd, y derbyniodd efe ef mewn cyffelybiaeth.
20Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau, ië, ynghylch pethau i ddyfod.
21Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseph, ac a addolodd gan bwyso ar ben ei ffon.
22Trwy ffydd, Joseph, a'i ddiwedd yn agos, a goffhâodd fynediad allan feibion Israel, ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.
23Trwy ffydd, Moses, wedi ei eni, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, am eu bod yn ei weled yn blentyn tlws, ac nid ofnasant arch y brenin.
24Trwy ffydd, Moses, wedi tyfu i fyny, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh,
25gan ddewis yn hytrach gael drwg driniaeth gyda phobl Dduw, na chael mwynhad pechod am dymor;
26gan gyfrif yn fwy golud waradwydd y Crist na thrysorau yr Aipht; canys edrych oedd efe at y daledigaeth.
27Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb ofni llid y brenin; canys efe a safodd yn gadarn fel yn gweled yr Anweledig.
28Trwy ffydd y sefydlodd efe y Pasc, a thaenelliad y gwaed, fel na byddai i Ddinystrydd y cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt.
29Trwy ffydd yr aethant trwy y Môr Coch megys ar hyd tir sych, o'r hwn For pan wnaeth yr Aiphtiaid brawf, hwy a lyngcwyd i fyny.
30Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu am saith niwrnod.
31Trwy ffydd, ni ddyfethwyd Rahab y butain gyda'r rhai anufudd, gan iddi dderbyn yr yspïwyr mewn heddwch.
32A pha beth eto a ddywedaf? Canys palla yr amser i mi os adroddaf am Gedeon, Barac, Samson, Jephthah; am Dafydd hefyd, a Samuel, a'r Prophwydi,
33y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a weithredasant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod,
34a ddiffoddasant angerdd tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, ac a droisant fyddinoedd o estroniaid i ffoi.
35Gwragedd a dderbyniasant eu meirw trwy adgyfodiad, dirboenwyd eraill i farwolaeth, heb dderbyn yr ymwared, fel y caent adgyfodiad gwell.
36Ac eraill a gawsant brawf o watwarau a fflangellau, ië, ac o rwymau a charchar;
37hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd a'r cleddyf; aent oddiamgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghennus, yn orthrymedig, yn cael eu cam‐drin
38(o'r rhai nid oedd y byd yn deilwng), yn grwydriaid mewn anial‐diroedd a mynyddoedd ac ogofeydd ac agenau y ddaear.
39A'r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy eu ffydd, ni dderbyniasant yr addewid,
40gan fod Duw wedi darparu rhywbeth gwell gyda golwg arnom ni, fel na pherffeithir hwy ar wahân oddiwrthym ninnau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.