Dadguddiad Ioan 13 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

1A hi a safodd ar dywod y môr.

Yr Anghenfil Cyntaf.

A gwelais Anghenfil yn dyfod i fyny o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg teyrn‐goron, ac ar ei bennau enwau cabledd.

2A'r Anghenfil yr hwn a welais oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r Ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorsedd, ac awdurdod mawr.

3A gwelais un o'i bennau megys wedi ei archolli i farwolaeth; ond ei glwyf marwol ef a iachâwyd, a'r holl ddaear a ryfeddodd ar ol yr Anghenfil.

4A hwy a addolasant y Ddraig, o herwydd iddi roddi ei hawdurdod i'r Anghenfil; a hwy a addolasant yr Anghenfil, gan ddywedyd, Pwy sydd yn debyg i'r Anghenfil? A phwy a ddichon ryfela âg ef?

5A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion a chableddau, a rhoddwyd iddo ryddid i weithredu am ddau fis a deugain.

6Ac efe a agorodd ei enau i gableddau yn erbyn Duw, i gablu ei Enw ef, a'i Dabernacl ef, sef

y rhai sydd yn trigo yn y nef,

7A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r Saint, a'u gorchfygu hwynt, a rhoddwyd iddo awdurdod dros bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl.

8A phawb sydd yn trigo ar y ddaear a'i haddolant ef, yr hwn nad ysgrifennwyd ei enw yn Llyfr Bywyd yr Oen, yr hwn sydd wedi ei ladd o seiliad y byd.

9Od oes gan neb glust, gwrandawed:

10Os oes neb i fyned i gaethiwed, y mae yn myned iddo;

Os bydd i neb ladd â'r cleddyf, rhaid ei ladd yntau â'r cleddyf.

Dyma ddewr‐amynedd a ffydd y Saint.

Yr Ail Anghenfil.

11A gwelais Anghenfil arall yn dyfod i fyny o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig.

12Ac y mae efe yn arfer holl awdurdod yr Anghenfil cyntaf ger ei fron ef; ac y mae yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli yr Anghenfil cyntaf, yr hwn yr iachâwyd ei glwyf marwol ef.

13Ac y mae efe yn gwneuthur arwyddion mawrion, fel y gwna i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear yng ngolwg dynion.

14Ac y mae efe yn twyllo y rhai sydd yn trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion a roddwyd iddo i'w gwneuthur yngwydd yr Anghenfil, gan ddywedyd wrth y rhai sydd yn trigo ar y ddaear ar wneuthur o honynt ddelw i'r Anghenfil, yr hwn sydd ganddo glwyf y cleddyf a byw fu.

15A rhoddwyd iddo i roddi anadl i ddelw yr Anghenfil, fel y llefarai hyd yn nod ddelw yr Anghenfil, ac y parai i gynifer ag na addolent ddelw yr Anghenfil gael eu lladd;

16ac y mae yn gwneuthur i bawb, y bychain a'r mawrion, a'r cyfoethogion a'r tlodion, a'r rhyddion a'r caethion, gael rhoddi iddynt nôd ar ei llaw ddehau, neu ar eu talcen;

17ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo y nôd, sef enw yr Anghenfil, neu rifedi ei enw ef.

18Yma y mae doethineb yr hwn sydd ganddo ddeall, cyfrifed rifedi yr Anghenfil, canys rhifedi dyn yw, a'i rifedi ef yw chwe chant a thriugain a chwech.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help