1Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,
2at y saint a'r ffyddlawn frodyr yng Nghrist Iesu yn Colossa: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd ein Harglwydd Iesu Grist,
4gan weddio yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, a'r cariad yr hwn sydd gennych tuag at yr holl saint,
5o herwydd y gobaith sydd wedi ei drysori i chwi yn y nefoedd, am yr hwn y clywsoch o'r blaen yn ngair gwirionedd yr efengyl,
6yr hon a ddaeth attoch chwi, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, megys y mae hefyd ynoch chwithau, er y dydd y clywsoch ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd;
7fel y dysgasoch gan Epaphras ein cyd‐was anwyl, yr hwn sydd drosom ni yn ffyddlawn weinidog i Grist;
8yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad yn yr Yspryd.
Gweddi am eu ffyniant ysprydol.9O herwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, ni pheidiwn a gweddio ar eich rhan, a deisyf eich llenwi â llawn‐wybodaeth o'i ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysprydol,
10i rodio yn deilwng o'r Arglwydd, er rhyngu ei fodd ym mhob peth, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynnyddu trwy wybodaeth o Dduw;
11yn cael eich galluogi â phob gallu, yn ol cadernid ei ogoniant, i wrol‐barhâd a hir‐ymaros gyda llawenydd;
12gan ddiolch i'r Tâd; yr hwn a'n cymhwysodd ni i ran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni;
13yr hwn a'n gwaredodd ni allan o allu y tywyllwch, ac a'n trosglwyddodd i deyrnas Mab ei gariad,
14yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth, maddeuant ein pechodau.
Crist: Delw Duw, Pen yr Eglwys, Iachawdwr ei Bobl.15Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig yr holl greadigaeth;
16canys ynddo ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau, ai arglwyddiaethau, ai llywodraethau, ai awdurdodau; yr oll trwyddo ef ac erddo ef, ydynt wedi eu creu.
17Ac y MAE EFE cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd‐sefyll.
18Ac efe yw Pen y Corph, yr Eglwys, yr hwn yw y dechreuad, y cyntaf‐anedig o'r meirw, fel y byddai efe ym mhob peth yn blaenori;
19canys rhyngodd bodd i'r Tad
drigo o'r holl gyflawnder ynddo ef,20a thrwyddo ef gymmodi pob peth iddo ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed ei Groes, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.
21A chwithau, y rhai oeddych gynt wedi ymddyeithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg,
22etto yn awr a gymmododd efe, yng nghorph ei gnawd trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno yn sanctaidd a difeius a diargyhoedd ger ei fron ef,
23os parhêwch yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sefydlu, ac heb eich bod yn symmud ymaith oddiwrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greadigaeth dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog.
Cenhadaeth Paul.24Yn awr, yr wyf yn llawenychu yn fy nyoddefiadau drosoch, ac yn llanw i fyny yn fy nhro yr hyn sydd ar ol o gystuddiau Crist yn fy nghnawd, er mwyn ei gorph ef, yr hwn yw yr Eglwys,
25i'r hon y'm gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ol goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi ar eich cyfer chwi, i gyflawnu gair Duw,
26sef y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd a rhag y cenhedlaethau, ond yn awr a eglurwyd i'w saint ef,
27i'r rhai yr ewyllysiodd Duw wneyd yn hyspys pa beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ym mhlith y cenhedloedd, yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant,
28yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan gynghori pob dyn a dysgu pob dyn ym mhob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist:
29i hyn hefyd yr wyf yn llafurio, gan ymdrechu yn ol ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithredu ynof yn nerthol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.