Actau 17 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

O Philippi i Athen, 1–15.

1Ac wedi iddynt wneyd ei ffordd trwy Amphipolis ac Apollonia, hwy a ddaethant i Thessalonica, lle yr oedd Synagog yr Iuddewon.

2Ac fel yr oedd yn arferol gan Paul, efe a aeth i mewn atynt; ac am dri Sabbath yr ymresymodd a hwynt o'r Ysgrythyrau,

3gan agoryd a gosod allan fod yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a chyfodi drachefn o feirw, ac, meddai, Hwn yw y Crist Iesu, yr hwn yr wyf yn ei gyhoeddi i chwi.

4A rhai o honynt a argyhoeddwyd ac a ychwanegwyd luaws mawr, ac o'r gwragedd penaf nid ychydig.

5Eithr yr Iuddewon, gan genfigenu, a chymeryd atynt ryw ddynion drwg o'r gwehilion, ac wedi casglu tyrfa, hwy a osodasant y ddinas mewn terfysg; a chan ymosod ar dŷ Jason, hwy a'u ceisiasant, er eu dwyn allan at y bobl.

6A phan na chawsant hwynt, llusgasant Jason a rhai brodyr gerbron Llywodraethwyr y ddinas, gan waeddi, Y rhai sydd yn chwyl‐droi y byd ydynt bresenol yma hefyd;

7y rhai a roesawodd Jason; ac y mae y rhai hyn oll yn gweithredu yn erbyn gorchymynion Cesar, gan ddywedyd fod brenhin arall, Iesu.

8A hwy a gyffroisant y dyrfa a Llywodraethwyr y ddinas, pan glywsant y pethau hyn.

9Ac wedi derbyn sicrwydd digonol oddiwrth Jason a'r lleill, hwy a'u gollyngasant ymaith allan.

10A'r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea; y rhai wedi cyrhaedd yno, a aethant i Synagog yr Iuddewon.

11A'r rhai hyn oedd foneddigeiddiach na'r rhai yn Thessalonica, yn gyfryw ag a dderbyniasant y Gair gyda phob brwdfrydedd, gan chwilio yr Ysgrythyrau yn ddyddiol, a oedd y pethau hyn felly.

12Gan hyny yn wir, llawer o honynt a gredasant; ac o'r gwragedd a'r gwyr Groegaidd anrhydeddus, nid ychydig.

13Ond pan wybu yr Iuddewon o Thessalonica fod Gair Duw yn cael ei gyhoeddi yn Berea hefyd gan Paul, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu a chythryblu y torfeydd.

14Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith i fyned hyd at y môr; a Silas a Thimotheus hefyd a arosasant yno.

15Ond y rhai a dywysent Paul a'i dygasant hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus ar iddynt ddyfod ato gyda phob brys, hwy a aethant ymaith.

Paul yn Athen, 16–34.

16Ac yn Athen tra yr oedd Paul yn eu disgwyl hwynt, ei yspryd a gynhyrfwyd ynddo wrth edrych ar y ddinas yn llawn o eilunod.

17Gan hyny yn wir efe a ymresymai yn y Synagog â'r Iuddewon a'r rhai defosiynol, ac yn y Farchnadle bob dydd â'r rhai a gyfarfyddent ag ef.

18A rhai hefyd o'r athronwyr Epicureaidd a Stoicaidd a ymddadleuent ag ef; a rhai a ddywedent, Beth a fyn y clebryn hwn ei ddywedyd? ond eraill, Tebyg yw ei fod yn gyhoeddwr o dduwiau dyeithr; gan ei fod yn pregethu yr Iesu a'r Adgyfodiad.

19A hwy a gymerasant afael ynddo, ac a'i dygasant ef at yr Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysgeidiaeth newydd hon a leferir genyt?

20Oblegyd yr wyt ti yn dwyn i'n clustiau rai pethau sydd yn peri syndod: am hyny ni a fynem wybod beth all y pethau hyn fod.

21(A'r holl Atheniaid, a'r dyeithriaid oedd yn preswylio yno, nid oedd ganddynt hamdden i ddim arall ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth oedd fwy newydd).

22A Phaul a gymerodd ei safle yn nghanol yr Areopagus, ac a ddywedodd,

O Wyr o Atheniaid, yn mhob peth yr wyf yn eich canfod yn dra‐pharchus o'r duwiau;

23canys wrth fyned heibio a sylwi yn fanwl a'r wrthddrychau eich addoliad, mi a gefais hefyd allor, ac ynddo yr ar‐ysgrifen, I DDUW ANADNABYDDUS: yr hyn gan hyny yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny yr wyf fi yn ei gyhoeddi i chwi.

24Y Duw a wnaeth y byd a'r holl bethau sydd ynddo, hwn ac Efe yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn preswylio mewn cysegrfeydd o waith llaw;

25ac nid gan ddwylaw dynol y gweinir iddo fel un ag eisieu dim arno yn ychwaneg, gan ei fod Efe ei hun yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth.

26Ac efe a wnaeth o un bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan benderfynu adegau penodedig a therfynau eu preswylfod hwynt;

27fel y ceisient Dduw, os, hwyrach, yr ymbalfalent am dano ac y caent ef: ac yn wir nid yw efe yn mhell oddiwrth bob un o honom ni:

28oblegyd ynddo Ef yr ydym ni yn byw, yn ymsymud, ac yn bod; megys y mae hyd y nod rhai o'ch beirdd chwi eich hunain wedi dywedyd, Canys ei hiliogaeth Ef ydym ninau hefyd.

29Gan hyny gan ein bod ni yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybied fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn.

30Duw gan hyny wedi edrych heibio i amseroedd yr anwybodaeth, yn awr a orchymyn i ddynion ar iddynt oll yn mhob man edifarhâu:

31o herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y mae ar fedr barnu y byd mewn cyfiawnder trwy Wr yr hwn a benododd efe, wedi rhoddi prawf i bawb, gan ei gyfodi ef o feirw.

32A phan glywsant am Adgyfodiad y meirw, rhai yn wir a watwarasant; ond eraill a ddywedasant, Ni a'th wrandawn di eto drachefn am y peth hwn.

33Felly Paul a aeth allan o'u canol hwynt;

34ond rhai gwyr a lynasant wrtho, ac a gredasant: yn mhlith y rhai hefyd yr oedd Dionysius yr Areopagiad a gwraig o'r enw Damaris, ac eraill gyda hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help