1Ac ar ol hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar unrhyw bren.
2A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sêl y Duw byw. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddesid i ddrygu y ddaear a'r môr,
3gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear na'r môr, na'r prennau, hyd nes y seliwn weision ein Duw ni ar eu talcennau.
4A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedair a deugain o filoedd wedi eu selio, allan o bob llwyth o feibion Israel.
5O lwyth Judah, ddeuddeng mil wedi eu selio:
O lwyth Reuben, ddeuddeng mil:
O lwyth Gad, ddeuddeng mil:
6O lwyth Aser, ddeuddeng mil:
O lwyth Nephthali, ddeuddeng mil:
O lwyth Manasseh, ddeuddeng mil:
7O lwyth Simeon, ddeuddeng mil:
O lwyth Lefi, ddeuddeng mil:
O lwyth Issachar, ddeuddeng mil:
8O lwyth Zabulon, ddeuddeng mil:
O lwyth Joseph, ddeuddeng mil:
O lwyth Benjamin, ddeuddeng mil wedi eu selio.
‘Y Dyrfa Fawr.’9Wedi y pethau hyn gwelais, ac wele, dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, allan o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr Orsedd a cher bron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, a phalmwydd yn eu dwylaw;
10a llefant â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i'n Duw ni yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen.
11A'r holl angelion oeddent yn sefyll o amgylch yr Orsedd ac o amgylch
yr henuriaid a'r pedwar creadur byw; a hwy a syrthiasant ger bron yr Orsedd ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,12gan ddywedyd,
Amen: Y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb,
A'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth,
Fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.
Trwy orthrymder i ogoniant.13Ac un o'r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, pwy ydynt, ac o ba le y daethant?
14A dywedais wrtho, Fy arglwydd, ti a wyddost. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw y rhai sydd yn dyfod allan o'r Gorthrymder mawr, ac a olchasant eu gwisgoedd ac a'u cànnasant yng ngwaed yr Oen.
15O herwydd hyn y maent ger bron Gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei Gysegr; a'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd a leda ei babell drostynt.
16Ni newynant mwyach, ni sychedant mwyach: ni thery yr haul o gwbl arnynt, na dim poethder;
17oblegyd yr Oen yr hwn sydd yng nghanol yr Orsedd, a'u bugeilia hwynt, ac a'u harwain at ffynhonnau dyfroedd bywyd, a Duw a sych ymaith bob deigr oddiwrth eu llygaid hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.