1Am hynny yr wyf yn eich annog chwi, frodyr, trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, llawn‐foddhâol, i Dduw: hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol.
2Ac na chydymagweddwch â'r byd hwn, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y gosodoch i brawf beth yw daioni, a llawn‐foddhâol a pherffaith ewyllys Duw.
3Canys dywedyd yr wyf, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na byddo iddo feddwl am dano ei hun yn uwch nag y dylai feddwl, ond i feddwl yn sobr, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
4Canys megys y mae gennym mewn un corph aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith;
5felly nyni yn llawer, ydym un corph yng Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd.
6A chan fod gennym ddoniau gwahanol yn ol y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai prophwydoliaeth, prophwydwn yn ol cyfartaledd ein ffydd;
7ai gweinidogaeth, byddwn ffyddlon yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn dysgu, yn y ddysgeidiaeth;
8neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cynghor; neu yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed gyda haelionusrwydd; yr hwn sydd yn llywyddu, gydag eiddgarwch; yr hwn sydd yn trugarhau, gyda sirioldeb.
9Bydded cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch y drwg; glynwch wrth y da.
10Mewn cariad brawdol, meithrinwch serch tyner tuag at eich gilydd; mewn dangos parch, yn blaenori ar eich gilydd;
11nid yn llesg mewn eiddgarwch; yn wresog mewn yspryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd;
12yn llawenhau mewn gobaith, yn dal i fyny dan orthrymder, yn dyfal‐barhau mewn gweddi;
13yn cyfrannu i angenrheidiau y saint, yn ymroddi i lettygarwch.
14Bendithiwch y rhai sydd yn eich erlid; bendithiwch, ac na felldithiwch.
15Llawenychwch gyda'r rhai sydd yn llawenychu; wylwch gyda'r rhai sydd yn wylo.
16Byddwch o'r un meddwl tuag at eich gilydd, heb roi eich meddwl ar bethau uchel, ond at dynner chwi at bethau sydd isel. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.
17Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Meddyliwch ym mlaenllaw am bethau anrhydeddus yng ngolwg pob dyn.
18Os yn bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch mewn heddwch â phob dyn.
19Nac ymddielwch, anwyliaid, eithr rhoddwch le i'r digofaint, canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae y dial, myfi a ad dalaf, medd yr Arglwydd.
20Eithr os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo i yfed; canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef.
21Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.