1Ac wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea, yn nyddiau Herod frenin, wele, Magiaid a daethom i'w addoli ef.
3A phan glybu Herod frenin, efe a gythryblwyd, a holl Jerusalem gydag ef.
4A chan ddwyn yn nghyd yr holl Archoffeiriaid ac Ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid y Crist.
5A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea, canys felly yr ysgrifenwyd trwy y proffwyd,
6“A thithau, Bethlehem, tir Judah, nid wyt o gwbl y lleiaf yn mhlith tywysogion Judah, canys allan o honot ti y daw Arweinydd, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.”
7Yna Herod a alwodd y Magiaid yn ddirgel, a mynodd wybod yn fanwl ganddynt amser y seren a ymddangosodd.
8A chan eu danfon i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf finau hefyd a'i addoli ef.
9A hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant i'w ffordd; ac wele y Seren, yr hon a welsant yn y Dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.
10A phan welsant y Seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.
11Ac wedi dyfod i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam, a chan syrthio i lawr, hwy a'i haddolasant ef, a chan agor eu trysorau, hwy a offrymasant iddo aur, a thus, a myrr.
12Ac wedi derbyn cyfarwyddyd mewn breuddwyd na ddychwelent at Herod, ar hyd ffordd arall hwy a ymadawsant i'w gwlad.
Y ffoedigaeth i'r Aifft.13Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti, canys Herod sydd ar geisio y mab bychan i'w ddyfetha ef.
14Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aifft,
15ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd drwy y proffwyd, gan ddywedyd,
“O'r Aifft y gelwais fy mab”.Llofruddio babanod Bethlehem.
16Yna Herod, pan welodd ei dwyllo gan y Magiaid, a fu ddigllawn iawn, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oeddynt yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hyny, wrth yr amser y dysgasai yn gywir oddiwrth y Magiaid.
17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd drwy Jeremiah y proffwyd, gan ddywedwyd,
18“Llef a glybuwyd yn Ramah,
Wylofain ac ochain mawr,
Rahel yn wylo am ei phlant,
Ac ni fynai ei chysuro, am nad ydynt.”Y Dychweliad i Nazareth.
19Ond wedi marw Herod, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseph yn yr Aifft, gan ddywedyd,
20Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel, canys y mae y rhai a geisient fywyd y mab bychan wedi marw.
21Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.
22Ond pan glybu fod Archelaus yn teyrnasu ar Judea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno; ac wedi ei gyfarwyddo mewn breuddwyd,
23efe a giliodd i barthau Galilea, ac a ddaeth ac a drigodd mewn dinas a elwir Nazareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwydi,
“Efe a elwir yn Nazaread”.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.