Hebreaid 12 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Rhinwedd Dysgyblaeth.

1Gan hynny bydded i ninnau hefyd, gan fod gennym yn ein hamgylchu gwmwl mor fawr o dystion, gan osod ymaith bob pwys a'r pechod sydd barod i'n hamgylchynu, trwy amynedd redeg yr yrfa a osodir o'n blaen,

2gan graffu ar Ben‐Tywysog a Pherffeithydd ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a osodwyd o'i flaen a ddyoddefodd y Groes, gan ddirmygu cywilydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd Duw.

3Canys cymharwch yr hwn sydd wedi dyoddef y fath wrth‐ddywedyd gan y pechaduriaid yn eu herbyn eu hunain, fel na flinoch yn eich eneidiau, gan ymollwng.

4Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed yn eich hymdrech yn erbyn pechod.

5A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn traethu wrthych fel meibion:

Fy Mab, na ddibrisia ddysgyblaeth yr Arglwydd,

Ac nac ymollwng pan y'th ddyger i brawf ganddo;

6Canys yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei garu y mae yn ei ddysgyblu, ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.

7Er mwyn dysgyblaeth yr ydych yn dyoddef; fel at feibion y mae Duw yn ymddwyn tu ag atoch; canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei ddysgyblu?

8Ac os heb ddysgyblaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb wedi dyfod yn gyfrannog, yna bastardiaid ac nid meibion ydych.

9Ac eto, cawsom dadau ein cnawd i'n dysgyblu, a pharchasom hwynt; onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dâd yr ysprydoedd, a byw?

10Canys hwynt‐hwy yn wir am ychydig ddyddiau a'n dysgyblent, fel y gwelent hwy yn dda; eithr efe er ein llesâd, fel y cyfranogem o'i sancteiddrwydd ef.

11Pob dysgyblaeth am y presennol yn wir, nid ymdengys yn fater o lawenydd ond o dristwch; eithr ar ol hynny y mae yn cynhyrchu ffrwyth tangnefeddus i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi trwyddi, sef ffrwyth cyfiawnder.

12Oherwydd paham, unionwch y dwylaw sydd yn llaesu a'r gliniau sydd yn cael eu parlysu,

13a gwnewch lwybrau uniawn i'ch traed, fel na throer yr aelod cloff o'i le, ond yr iachâer ef yn hytrach.

Grasusau cyd‐fynedol: Heddwch a phurdeb.

14Dilynwch heddwch â phawb, a'r sancteiddiad heb yr hwn ni wêl neb yr Arglwydd,

15gan edrych yn ddyfal rhag i neb syrthio yn fyr o ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny ac yn eich trallodi, a thrwyddo i'r lliaws gael eu halogi;

16rhag bod un puteiniwr, neu anghrefyddol, megys Esau, yr hwn am un pryd o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint ei hun.

17Canys chwi a wyddoch, hyd y nod pan wedi hynny yr oedd yn ewyllysio etifeddu y fendith, ddarfod ei wrthod ef, (canys ni chafodd le i edifeirwch), er iddo â dagrau ei dyfal‐geisio hi.

Y gyferbyniaeth aruchel rhwng yr Hen a'r Newydd.

18Canys nid ydych chwi wedi dyfod at fynydd

y gellid cyffwrdd âg ef, ac at dân sydd wedi bod yn llosgi, ac at dduwch a chaddug dudew, a thymhestl, a sain udgorn,

19a llais geiriau, yr hwn lais y rhai a'i clywsant a ddeisyfasant na ychwanegid air wrthynt.

20Canys ni allent oddef yr hyn a orchymynasid, os hyd yn nod bwystfil a gyffwrdd â'r mynydd, llabyddir ef.

21Ac mor ofnadwy oedd yr olygfa, fel y dywedodd Moses, Yr wyf yn ofni ac yn crynu.

22Eithr yr ydych chwi wedi dyfod i Fynydd Sion, a Dinas Duw byw, Jerusalem nefol o angelion yn cadw gwyl,

23ac at gynulleidfa y cyntaf‐anedigion sydd wedi eu cofrestru yn y nefoedd, ac at Dduw pawb fel Barnwr, ac at ysprydoedd y cyfiawnion wedi eu perffeithio,

24ac at Gyfryngwr Cyfamod newydd, Iesu, ac at waed taenelliad yn llefaru yn rhagorach nag Abel.

Rhybudd a Rhag‐ddywediad.

25Gwelwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru; canys os hwynt‐hwy ni ddiangasant ar y ddaear pan wrthodasant yr hwn a'u rhybuddiai, mwy o lawer ni ddiangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddiwrth yr hwn sydd yn ein rhybuddio o'r nefoedd:

26llais yr hwn a ysgydwodd y ddaear y pryd hwnnw; ond yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith, mi a ysgydwaf nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd.

27A'r gair, Eto unwaith, a arddengys symudiad y pethau a ysgydwir fel pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nad ysgydwir.

28O herwydd paham, gan dderbyn teyrnas nad ysgydwir, bydded gennym ras, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd gyda duwiolfrydedd ac ofn;

29canys hefyd y mae ein Duw ni yn dân ysol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help