Datguddiad 22 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1A dangosodd imi afon o ddwfr bywyd, ddisglair fel grisial, yn dyfod allan o orsedd Duw a’r Oen.

2Ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd pren bywyd yn dwyn deuddeg ffrwyth, yn rhoddi ei ffrwyth bob mis, a dail y pren oedd er iachâd y cenhedloedd.

3Ac ni bydd dim melltith mwyach. A bydd gorsedd Duw a’r Oen ynddi, a gwasnaetha ei weision ef;

4a gwelant ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau.

5Ac ni bydd nos mwyach, ac nid rhaid iddynt wrth olau lamp na golau haul, canys goleua’r Arglwydd Dduw iddynt, a theyrnasant yn oes oesoedd.

6A dywedodd wrthyf: Dyma’r geiriau ffyddlon a chywir, ac anfonodd Arglwydd Dduw ysbrydoedd y proffwydi ei angel i ddangos i’w weision y pethau sydd raid iddynt ddigwydd ar fyrder.

7Ac wele yr wyf yn dyfod ar frys. Gwyn ei fyd y neb sy’n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.

8A myfi Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i addoli wrth draed yr angel a’u dangosai hwynt imi.

9A dywed wrthyf: Gwylia, paid! cyd-was ydwyf â thi ac â’th frodyr y proffwydi ac â’r rhai sy’n cadw geiriau’r llyfr hwn; addola Dduw.

10A dywed wrthyf: Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn; canys y mae’r amser yn agos.

11Yr anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto, a’r aflan, aflaneiddier ef eto, a’r cyfiawn, gwneled gyfiawnder eto, a’r sanctaidd, sancteiddier ef eto.

12Wele yr wyf yn dyfod ar frys, a’m tâl gyda mi, i roddi i bob un fel y bo ei waith.

13Myfi yw’r Alffa a’r Omega, y cyntaf a’r diwethaf, y dechrau a’r diwedd.

14Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu mentyll, fel y byddo hawl ganddynt ar bren y bywyd, ac yr elont i mewn drwy’r pyrth i’r ddinas.

15Oddi allan y mae’r cŵn a’r swyngyfareddwyr a’r puteinwyr a’r llofruddion a’r eilunaddolwyr a phob un sy’n caru ac yn gwneuthur twyll.

16Myfi, Iesu, anfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn er mwyn yr eglwysi. Myfi yw gwreiddyn a hiliogaeth Dafydd, y seren ddisglair fore.

17A dywed yr ysbryd a’r briodferch: Tyred. A dyweded y neb a glyw: Tyred. A deued y sychedig, cymered y neb a ewyllysio ddwfr bywyd yn rhad.

18Tystiolaethaf i bob un a glyw eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: Os chwanega neb atynt, chwanega Duw iddo yntau y plâu sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

19Ac os tyn neb oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, tyn Duw ei ran ef o bren y bywyd ac o’r ddinas sanctaidd, pethau sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

20Dywed yr hwn sy’n tystiolaethu’r pethau hyn: Ie, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen, tyred, Arglwydd Iesu.

21Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda phawb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help