1Paul, caethwas Crist Iesu, a alwyd i fod yn apostol, Wedi ei neilltuo i efengyl Duw, yr hon
2a ragaddawodd ef trwy ei broffwydi mewn ysgrythurau sanctaidd,
3am ei Fab, a aned o had Dafydd yn ôl y cnawd,
4a benodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ôl ysbryd sancteiddrwydd trwy atgyfodiad meirwon, Iesu Grist ein Harglwydd,
5y derbyniasom trwyddo ras ac apostoliaeth i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw;
6y rhai yr ydych chwithau yn eu plith yn alwedigion Iesu Grist:
7at bawb sydd yn Rhufain yn annwyl gan Dduw, a alwyd i fod yn saint. Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
8Yn gyntaf diolchaf i’m Duw trwy Iesu Grist amdanoch chwi oll, oblegid cyhoeddi eich ffydd yn yr holl fyd.
9Oblegid fy nhyst yw Duw, yr hwn a wasanaethaf â’m hysbryd yn efengyl ei Fab, mor ddibaid y coffâf chwi bob amser yn fy ngweddïau,
10gan ddeisyf a gawn rywfodd, rywbryd bellach, rwydd hynt trwy ewyllys Duw i ddyfod atoch.
11Canys y mae hiraeth arnaf am eich gweled, fel y cyfrannwyf i chwi ryw ddawn ysbrydol, i’ch cadarnhau chwi,
12hynny yw, i’n cydgysuro yn eich plith drwy’r ffydd sydd yn y naill a’r llall, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau.
13Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi lawer gwaith fwriadu dyfod atoch, a’m rhwystro hyd yn hyn, fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwithau, megis yn y gweddill o’r Cenhedloedd.
14I Roegiaid ac i farbariaid, i ddoethion ac i annoethion, dyledwr wyf.
15Felly, o’m rhan i, eiddgar wyf i gyhoeddi’r efengyl i chwithau sydd yn Rhufain.
16Canys nid oes arnaf gywilydd o’r efengyl, oblegid gallu Duw ydyw er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, i Iddew yn gyntaf ac i Roegwr.
17Canys datguddir ynddi gyfiawnder Duw o ffydd i ffydd, fel yr ysgrifennwyd: Y cyfiawn, trwy ffydd y bydd byw.
18Canys datguddir digofaint Duw, o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion sy’n atal y gwirionedd drwy anghyfiawnder.
19Oherwydd yr hyn y gellir ei wybod am Dduw sy’n eglur ynddynt, oblegid eglurodd Duw ef iddynt.
20Canys ei anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, o’u deall trwy’r pethau a wnaed, a welir yn glir — ei dragwyddol allu a’i ddwyfoldeb — fel y byddont yn ddiesgus.
21Oherwydd er iddynt adnabod Duw nis gogoneddasant fel Duw, na rhoddi diolch, ond aethant yn ofer yn eu hopiniynau a thywyllwyd eu calon anneallus.
22Yn honni eu bod yn ddoethion aethant yn ffyliaid,
23a chyfnewid gogoniant
traddododd Duw hwynt i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nad ydynt weddaidd,29wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, drygwaith, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, malais,
30yn sibrydwyr, yn athrodwyr, yn casáu Duw, yn dreiswyr, yn feilchion, yn ymffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufudd i rieni,
31yn ddiddeall, yn dorwyr amod, yn ddi-serch, yn ddidosturi;
32a hwy’n gwybod ordeiniad Duw, bod y sawl sy’n gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, nid yn unig fe’u gwnânt, eithr hefyd cymeradwyant y sawl a’u gwna.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.