1Ac yn ben ar yr hyn yr ydym yn sôn amdano: dyma’r fath archoffeiriad sydd gennym, un a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd y mawrhydi yn y nefoedd,
2yn weinidog y cysegr a’r gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd ac nid dyn.
3Yn awr, pob archoffeiriad, i offrymu rhoddion ac aberthau y penodir ef, ac felly rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i’w offrymu.
4Gan hynny, pe byddai ar y ddaear, ni byddai’n offeiriad, am fod yma yn barod rai i offrymu rhoddion yn ôl y gyfraith;
5ac i ddarlun a chysgod y pethau nefol y mae’r rhain yn gweini, fel y gorchmynnwyd i Foses pan oedd ar godi’r tabernacl. Canys “Gwêl,” meddai, “wneuthur ohonot bopeth yn ôl y cynllun a ddangoswyd i ti yn y mynydd.”
6Ond yn awr cafodd ef amgenach gweinidogaeth, yn gymaint â’i fod yn gyfryngwr gwell cyfamod a sefydlwyd ar bwys gwell addewidion;
7canys pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifai, ni cheisiasid lle i un arall.
8Canys dan feio arnynt y dywed,
“Wele, y mae’r dyddiau’n dyfod, medd yr Arglwydd,
y byddaf yn pennu ar dŷ Israel ac ar dŷ Jwda gyfamod newydd,
9 nid yn ôl y cyfamod a wneuthum i’w tadau hwynt
yn y dydd y gafaelais yn eu llaw hwynt
i’w harwain allan o dir yr Aifft
am nad arosasant hwy yn fy nghyfamod i,
a minnau a fûm ddibris ohonynt, medd yr Arglwydd,
10 canys hwn yw’r cyfamod a osodaf i dŷ Israel,
ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd.
Rhoddaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl hwynt
ac ar eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt.
A byddaf iddynt yn Dduw,
a byddant hwythau i mi yn bobl.
11 A mwyach ni ddysgant bob un ei gymydog
a phob un ei frawd, a dywedyd,
‘Adnebydd yr Arglwydd,’
Canys bydd pawb yn f’adnabod
o fach hyd fawr ohonynt,
12 canys tyner fyddaf wrth eu hanwireddau hwy,
ac am eu pechodau ni bydd mwyach gof gennyf.”
13Wrth ddywedyd “newydd,” y mae wedi cyhoeddi’r cyntaf yn hen. Ac y mae’r peth a gyhoeddir yn hen ac sydd yn oedrannus yn ymyl ei dranc.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.