1Pawl, Apostol Crist Iesu, trwy ewyllys Duw, yn ôl yr addewid o’r bywyd sydd yng Nghrist Iesu,
2at Timotheus ei annwyl blentyn. Gras, trugaredd, a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3Diolchaf i’m Duw a addolaf fel fy nhadau â chydwybod bur, wrth wneuthur coffa ohonot yn ddibaid yn fy ngweddïau nos a dydd,
4gan hiraethu am dy weled, a chofio dy ddagrau, fel y’m llanwer â llawenydd,
5gan alw i gof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois ac yn dy fam Eunice, ac y mae yn ddiogel gennyf ei bod ynot tithau hefyd.
6O achos hyn atgofiaf di i ailennyn dawn Duw y sydd ynot ti trwy arddodiad fy nwylo i,
7canys ni roddes Duw inni ysbryd llwfr, eithr ysbryd nerth a chariad a phwyll.
8Na foed arnat gywilydd, ynteu, o dystiolaeth yr Arglwydd, na chwaith ohonof innau ei garcharor, eithr cydoddef â mi gam-drin dros yr efengyl trwy allu Duw,
9yr hwn a’n hachubodd ni, a’n galw â galwad santaidd, nid oherwydd ein gweithredoedd ni, eithr oherwydd ei briod fwriad a’i ras a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu erioed,
10ond a eglurhawyd yn awr trwy amlygiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, a ddirymodd angau ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i’r golau trwy’r efengyl
11y’m gosodwyd i yn bregethwr ac apostol ac athro iddi.
12O achos hyn y dioddefaf hefyd y pethau hyn, ond nid oes arnaf gywilydd, canys mi a wn ym mhwy yr wyf wedi ymddiried, ac y mae yn ddiogel gennyf y medr ef warchod fy adnau hyd y dydd mawr.
13Bydded gennyt batrwm y ddysgeidiaeth iach a glywaist gennyf i yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
14Gwarchod yr adnau drud trwy’r Ysbryd Glân sy’n preswylio ynom.
15Gwyddost gefnu o bawb o’r Asiaid arnaf; yn eu plith y mae Phygelos a Hermogenes.
16Rhodded yr Arglwydd drugaredd i deulu Onesifforos, canys mynych y cododd ef fy nghalon, ac ni bu arno gywilydd o’m cadwyn.
17Eithr pan oedd yn Rhufain chwiliodd amdanaf a’m cael.
18Rhodded yr Arglwydd iddo yntau gaffael trugaredd oddi wrth yr Arglwydd yn y dydd mawr; a’r holl wasanaeth a wnaeth yn Effesus, gwyddost ti yn well na neb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.