1 Ioan 4 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Rai annwyl, na chredwch ym mhob ysbryd, ond gosodwch yr ysbrydion ar brawf a ydynt o Dduw, oherwydd y mae llawer o broffwydi gau a wedi myned allan i’r byd.

2Wrth hyn yr adwaenoch ysbryd Duw; pob ysbryd sy’n cydnabod bod Iesu Grist wedi dyfod yn y cnawd, o Dduw y mae;

3a phob ysbryd nad yw’n cydnabod yr Iesu, nid o Dduw y mae, a hwn yw ysbryd yr Anghrist, y clywsoch amdano ei fod yn dyfod, ac yn awr y mae yn y byd eisoes.

4Chwychwi o Dduw yr ydych, blant bach, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwynt, am fod yr hwn sydd ynoch chwi yn fwy na’r hwn sydd yn y byd.

5Hwynt-hwy, o’r byd y maent. Am hynny, o’r byd y maent yn llefaru, a’r byd sydd yn gwrando arnynt.

6Nyni, o Dduw yr ydym. Y mae’r hwn sy’n adnabod Duw yn gwrando arnom, a’r hwn nad yw o Dduw, nid yw yn gwrando arnom. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd gwirionedd ac ysbryd cyfeiliomad.

7Rai annwyl, carwn ein gilydd, am fod cariad o Dduw, a phawb sy’n caru, o Dduw y mae’n hanfod ac y mae’n adnabod Duw.

8Yr hwn nid yw’n caru, nid edwyn Dduw am mai cariad yw Duw.

9Yn hyn yr amlygwyd cariad Duw ynom ni, fod Duw wedi anfon Ei unig-anedig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo.

10Yn hyn y mae’r cariad, nid am ein bod ni wedi caru Duw, ond am iddo Ef ein caru ni ac anfon Ei Fab yn iawn am ein pechodau.

11Rai annwyl, os fel hyn y carodd Duw ni, dylem ninnau garu ein gilydd.

12Nid oes neb erioed wedi gweled Duw; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom ac y mae Ei gariad wedi Ei berffeithio ynom ni.

13Wrth hyn y gwyddom ein bod yn aros ynddo Ef ac Yntau ynom ninnau, am Ei fod wedi rhoddi o’i ysbryd i ni.

14Ac yr ydym ni wedi gweled ac yr ydym yn tystio bod y Tad wedi anfon y Mab yn waredwr y byd.

15Pwy bynnag sy’n cydnabod mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ac yntau yn Nuw.

16Ac yr ydym ni yn gwybod ac wedi credu’r cariad sydd gan Dduw ynom. Cariad yw Duw, ac y mae’r hwn sy’n aros yn y cariad yn aros yn Nuw a Duw’n aros ynddo yntau.

17Yn hyn y mae cariad Duw wedi ei berffeithio gennym, y bydd gennym hyder yn nydd y farn, am ein bod ninnau hefyd yn debyg iddo yntau yn y byd hwn.

18Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw ofn allan, oherwydd y mae ofn ynglŷn wrth gosb, ac nid yw’r hwn sydd yn ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.

19Yr ydym ni yn caru am iddo Ef ein caru ni yn gyntaf.

20Os dywed neb “yr wyf yn caru Duw” ac yntau’n casáu ei frawd, celwyddog yw. Oherwydd ni all yr hwn na châr ei frawd y mae wedi ei weled, garu Duw y mae heb Ei weled.

21A hwn yw’r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho Ef, fod i’r hwn sy’n caru Duw garu ei frawd hefyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help