Philipiaid 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. I mi’n wir nid yw ysgrifennu’r un pethau’n faich, ac i chwi diogel yw.

2Gochelwch y cŵn, gochelwch weithredwyr drwg, gochelwch yr hunan-waediad.

3Canys nyni ydyw’r enwaediad, sy’n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd,

4er gallu ohonof fi fy hun ymddiried yn y cnawd. O thyb neb arall y gall ymddiried yn y cnawd, myfi’n fwy felly;

5wedi f’enwaedu’r wythfed dydd, o hil Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrewr o’r Hebreaid, yn ôl y ddeddf yn Pharisead,

6yn ôl sêl yn erlid yr eglwys, yn ôl y cyfiawnder sydd o’r ddeddf wedi’m caffael yn ddifeius.

7Eithr pa bethau bynnag oedd elw i mi, y rhain a gyfrifais yn golled er mwyn Crist.

8Ie, ymhellach, yr wyf hyd yn oed yn cyfrif popeth yn golled oherwydd rhagoriaeth adnabod Crist Iesu f’Arglwydd, er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhopeth, ac y cyfrifaf hwynt yn dom fel yr enillwyf Grist

9a’m caffael ynddo ef, nid â chyfiawnder o’m heiddof fy hun sydd o’r ddeddf, eithr hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd,

10er mwyn ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymundeb ei ddioddefaint ef, a’m cydffurfio â’i farwolaeth ef,

11o chyrhaeddaf mewn un modd yr atgyfodiad sydd o’r meirw.

12Nid fy mod eisoes wedi caffael nac eisoes wedi’m perffeithio, ond dal rhagof yr wyf o gallwyf gael gafael yn y peth hwnnw y gafaelwyd ynof o’i blegid gan Grist Iesu.

13Frodyr, nid wyf yn cyfrif fy mod i fy hun eto wedi cael gafael; ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen,

14yr wyf yn cyrchu at y nod at gamp galw uchel Duw yng Nghrist Iesu.

15Cynifer gan hynny ohonom ag sy’n berffaith, syniwn hyn; ac os syniwch ddim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi;

16un peth, i ba le bynnag y deuthom, daliwn yn yr un llwybr.

17Byddwch gyd-efelychwyr ohonof fi, frodyr, ac ystyriwch y rhai sy’n rhodio felly megis yr ydym ni gennych yn esiampl.

18Canys rhodia llawer y dywedais wrthych amdanynt yn fynych, ac y dywedaf yn awr gan wylo, mai gelynion croes Crist ydynt,

19diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sy’n synied pethau daearol.

20Canys yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddiyno hefyd y disgwyliwn fel Iachawdwr yr Arglwydd Iesu Grist,

21yr hwn a gyfnewidia gorff ein darostyngiad ni i fod yn unffurf â chorff ei ogoniant ef, yn ôl y gweithrediad y dichon ef trwyddo hyd yn oed ddarostwng pob dim iddo’i hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help