1 Pedr 5 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Cynghori yr wyf, felly, yr henuriaid yn eich plith, fel cyd-henuriad a thyst o ddioddefiadau’r Crist, un sydd hefyd yn gyfrannog o’r gogoniant sydd i’w ddatguddio.

2Bugeiliwch braidd Duw yn eich mysg, nid wrth orfod eithr o’ch gwirfodd yn ôl Duw, nid yn budrelwa ond yn ewyllysgar,

3nid ychwaith fel rhai’n tra-arglwyddiaethu ar y rhai sydd dan eu gofal, ond gan fod yn batrwm i’r praidd.

4A phan ymddangoso’r Pen-bugail, cewch dderbyn. coron anniflanedig y gogoniant.

5Yr un modd, yr ieuainc, ymostyngwch i henuriaid; ie, bawb ohonoch, ymwregyswch â gostyngeiddrwydd tuag at eich gilydd, oherwydd y mae Duw yn erbyn yr uchel eu bryd, ond i’r gostyngedig dyry ras.

6Ymostyngwch, gan hynny, dan nerthol law Duw, fel y’ch dyrchafo pan ddelo’r adeg,

7gan fwrw eich holl ofal arno ef, canys y mae ef yn gofalu drosoch chwi.

8Byddwch sobr, byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebwr diafol yn rhodio oddi amgylch megis llew yn rhuo, gan geisio pwy i’w lyncu.

9Gwrthwynebwch ef yn gadarn yn y ffydd, gan wybod mai’r unrhyw ddioddefiadau yw rhan eich brodyr yn y byd.

10A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, ei hun a’ch cyweiria, a’ch cadarnha, a’ch nertha, a’ch sefydla, wedi dioddef ohonoch dros ychydig.

11Iddo ef y bo’r gallu dros byth. Amen.

12Ysgrifennais atoch mewn ychydig eiriau drwy law Silfanus, brawd ffyddlon, fel y credaf, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir ras Duw. Sefwch ynddo.

13Y mae’r hon sydd gydetholedig â chwi ym Mabilon yn eich annerch, a Marc fy mab.

14Anerchwch eich gilydd â chusan cariad.

Tangnefedd i chwi, bawb y sydd yng Nghrist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help