1ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a’r wawr ar dorri, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau a baratoesent.
2A chawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd,
3ac aethant i mewn, ac ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
4A digwyddodd, pan oeddynt mewn penbleth ynghylch hyn, dyma ddau ŵr yn sefyll gerllaw iddynt mewn gwisg lachar.
5Ac a hwythau wedi brawychu ac yn gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, “Paham yr ydych yn ceisio’r byw ymysg y meirw?
6Nid yw yma, ond cyfododd. Cofiwch fel y llefarodd wrthych, pan oedd eto yng Ngalilea,
7gan ddywedyd am Fab y dyn fod yn rhaid ei draddodi i ddwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.”
8A chofiasant ei eiriau,
9ac wedi troi’n ôl oddi wrth y bedd mynegasant y pethau hyn oll i’r un ar ddeg ac i’r lleill i gyd.
10Mair Magdalen a Ioana a Mair mam Iago oeddent; a’r lleill hefyd gyda hwynt oedd yn dywedyd y pethau hyn wrth yr apostolion.
11Ac yn eu golwg hwy ymddangosai’r geiriau hyn megis lol, ac nis credent.
12[Ond cododd Pedr, a rhedodd at y bedd; ac wedi ysbïo i mewn, fe wêl y rhwymynnau yn unig; ac aeth ymaith adref gan ryfeddu at yr hyn a fu.]
13Ac wele yr oedd dau ohonynt yr un diwrnod ar eu ffordd i bentref a oedd saith milltir o Gaersalem, a’i enw Emmäws,
14ac yr oeddent hwy’n ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a oedd wedi digwydd.
15Ac wrth eu bod yn ymddiddan ac yn ymofyn â’i gilydd, dyma Iesu ei hun yn dynesu ac yn cydgerdded â hwynt;
16ond ataliwyd eu llygaid hwynt rhag ei adnabod.
17A dywedodd wrthynt, “Beth yw’r chwedlau hyn yr ydych yn eu bwrw at eich gilydd wrth gerdded?” A safasant yn drist eu hwynebau.
18Ac atebodd un, o’r enw Gleopas, a dywedyd wrtho, “Ai ti yw’r unig ymwelydd yng Nghaersalem sydd heb wybod y pethau a ddigwyddodd ynddi hi yn y dyddiau hyn?”
19A dywedodd wrthynt, “Pa bethau?” Dywedasant hwythau wrtho, “Y pethau am Iesu o Nasareth, a fu’n ŵr o broffwyd, nerthol mewn gweithred a gair yng ngolwg Duw a’r holl bobl,
20y modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n penaethiaid ni ef i farn marwolaeth, ac y croeshoeliasant ef.
21Ond yr oeddem ni’n gobeithio mai ef oedd yr un a waredai’r Israel. Ac ar ben hyn oll, dyma’r trydydd dydd er pan fu hyn.
22A hefyd fe’n syfrdanwyd gan rai gwragedd o’n mysg; wedi iddynt fod yn fore wrth y bedd,
23a heb gael ei gorff, daethant a dywedyd iddynt weled gweledigaeth o angylion, a ddywedent ei fod ef yn fyw.
24Ac aeth rhai o’r cyfeillion at y bedd, a chawsant yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ef nis gwelsant.”
25Ac meddai yntau wrthynt, “O ddynion ynfyd a hwyrfrydig o galon i gredu pob peth a lefarodd y proffwydi!
26Onid oedd yn rhaid i’r Crist ddioddef y pethau hyn, ac yna fynd i mewn i’w ogoniant?”
27A chan ddechrau o Foses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ef ei hun.
28A daethant yn agos i’r pentref lle’r oeddent yn mynd, a chymerth ef arno ei fod yn mynd ymhellach.
29A gorfodasant ef, gan ddywedyd, “Aros gyda ni; achos y mae’n mynd yn hwyr, a’r dydd sy bellach wedi pallu.” Ac aeth i mewn i aros gyda hwynt.
30Ac wedi iddo eistedd gyda hwynt, cymerodd y bara, a’i fendithio, a’i dorri a’i roddi iddynt.
31Ac agorwyd eu llygaid hwy a daethant i’w adnabod; a diflannodd yntau o’u golwg.
32A dywedasant wrth ei gilydd, “Onid oedd ein calon yn llosgi ynom, pan oedd yn llefaru wrthym ar y ffordd, pan oedd yn agor yr ysgrythurau inni?”
33A chodasant yr awr honno, a dychwelyd i Gaersalem; a chawsant yr un ar ddeg a’u cyfeillion wedi ymgynnull,
34yn dywedyd, “Yn wir, cyfododd yr Arglwydd, a gwelwyd ef gan Simon,”
35Ac adroddasant hwythau beth a fu ar y ffordd, a’r modd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
36A hwy’n siarad am y pethau hyn, safodd yntau yn eu mysg,
37A dychrynu a brawychu a wnaethant, a thybied mai ysbryd a welent.
38A dywedodd wrthynt, “Paham yr ydych wedi cyffroi, a phaham y cyfyd meddyliau yn eich calon?
39Gwelwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw; teimlwch fi a gwelwch, canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf i.”
40[Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.]
41Ac a hwy eto’n methu â chredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, fe ddywedodd wrthynt, “Oes gennych chwi fwyd yma?”
42Rhoesant hwythau iddo ddarn o bysgodyn wedi ei grasu;
43ac fe’i cymerth, a’i fwyta yn eu gŵydd hwynt.
44A dywedodd wrthynt, “Hyn oedd ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi, fod yn rhaid cyflawni popeth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses a’r proffwydi a’r salmau amdanaf i.”
45Yna agorodd eu meddwl i ddeall yr ysgrythurau.
46A dywedodd wrthynt, “Felly y mae’n ysgrifenedig fod i’r Crist ddioddef ac atgyfodi o feirw’r trydydd dydd,
47a bod cyhoeddi yn ei enw ef edifeirwch er maddeuant pechodau i’r holl genhedloedd — gan ddechrau o Gaersalem.
48Chwychwi fydd dystion o’r pethau hyn.
49Ac wele fi’n anfon allan addewid fy Nhad atoch; chwithau, arhoswch yn y ddinas hyd oni’ch gwisger oddi uchod â nerth.”
50Ac fe’u dug hwynt allan hyd yn ymyl Bethania, a chododd ei ddwylo, a’u bendithio hwynt.
51A phan oedd yn eu bendithio, ymwahanodd oddi wrthynt.
52A dychwelasant hwythau i Gaersalem gyda llawenydd mawr,
53ac yr oeddent yn wastad yn y deml, yn bendithio Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.