1Oherwydd ewyllysiaf i chwi wybod cymaint fy ymdrech drosoch a thros y rhai yn Laodicea a’r sawl na welodd fy wyneb yn y cnawd,
2fel y diddaner eu calonnau, wedi eu cysylltu ynghyd mewn cariad ac i lawnder golud sicrwydd deall, i adnabyddiaeth o ddirgelwch Duw, Crist,
3y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig ynddo.
4Hyn a ddywedaf fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hudolus.
5Canys os wyf absennol yn y corff, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, gan lawenhau wrth weled eich trefn chwi a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist.
6Gan hynny, megis y derbyniasoch y Crist, Iesu yr Arglwydd, rhodiwch ynddo,
7wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo, a’ch cadarnhau yn y ffydd fel y’ch dysgwyd, gan fod yn helaeth mewn diolchgarwch.
8Edrychwch na bo neb yn eich cludo ymaith yn ysbail drwy athroniaeth a gwag dwyll yn ôl traddodiad dynion, yn ôl elfennaidd bethau’r byd, ac nid yn ôl Crist.
9Canys ynddo ef y preswylia holl gyflawnder y Duwdod,
10a chwithau a gyflanwyd ynddo ef, y sydd yn ben pob llywodraeth ac awdurdod,
11y’ch enwaedwyd ynddo hefyd ag enwaediad nid o waith llaw drwy fwrw ymaith gorff y cnawd yn enwaediad Crist,
12wedi eich claddu gydag ef yn y bedydd, ac y’ch cyd-gyfodwyd ynddo drwy ffydd yng ngweithrediad Duw a’i cyfododd ef o feirw.
13A chydag ef cydfywhaodd chwithau, a oedd yn feirw drwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd, wedi maddau inni yr holl gamweddau
14a dileu yr hyn a ysgrifennwyd yn yr ordeiniadau yn ein erbyn, y peth a oedd yn wrthwyneb i ni: hyn a ddug ef ymaith gan ei hoelio ar y groes,
15a chan ddinoethi y llywodraethau a’r awdurdodau arddangosodd hwynt ger bron y byd yn ei orymdaith fuddugoliaethus drwyddi hi.
16Gan hynny na farned neb chwi mewn bwyta ac mewn yfed neu mewn mater o ŵyl neu newydd-loer neu Saboth;
17cysgod ydynt hwy o’r pethau sydd i ddyfod, eithr y sylwedd sydd o Grist.
18Nac ysbeilied neb chwi o’ch gwobr, y sydd a’i fryd ar ostyngeiddrwydd ac addoli angylion, yn ymgywreinio ynglŷn â’r pethau a welodd, yn ofer ymchwyddo drwy ei feddwl cnawdol,
19a heb ddal gafael yn y Pen, o’r hwn y mae yr holl gorff, gan gael ei gynnal a’i gydgordeddu drwy y cymalau a’r gewynnau, yn cynyddu yng nghynnydd Duw.
20Os buoch feirw gyda Christ oddi wrth elfennaidd bethau’r byd, paham, fel rhai’n byw yn y byd, yr ymostyngwch i ordeiniadau —
21na thrin, na archwaetha, na chyffwrdd —
22y rhai sydd oll i lygredigaeth wrth eu defnyddio, yn ôl gosodiadau ac athrawiaethau dynion?
23Y mae gan y cyfryw bethau air eu bod yn ddoethineb ar gyfrif defodau hunan-osodedig a gostyngeiddrwydd a thriniaeth ddiarbed corff eithr nid ydynt mewn anrhydedd er llwyr fodloni’r cnawd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.