1A phan ddaeth y bore ymgynghorodd yr holl archoffeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu er mwyn ei roddi i farwolaeth.
2A rhwymasant ef, ac aethant ag ef ymaith, a’i draddodi i Bilat, y rhaglaw.
3Yna pan welodd Iwdas, a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio, bu’n edifar ganddo, a daeth â’r deg darn arian ar hugain yn ôl i’r archoffeiriaid a’r henuriaid,
4gan ddywedyd, “Pechais wrth fradychu’r diniwed.” Dywedasant hwythau, “Beth yw hynny i ni? Rhyngot ti a hynny.”
5A bwriodd yr arian i’r deml ac ymadael, ac aeth ymaith ac ymgrogi.
6A chymerth yr archoffeiriaid yr arian, ac meddent, “Ni ddylid ei roi yn y drysorfa, gan mai pris gwaed ydyw.”
7Ac wedi ymgynghori prynasant ag ef Faes y Crochenydd yn gladdfa i ddieithriaid.
8Am hynny gelwir y maes hwnnw yn Faes Gwaed hyd heddiw.
9Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd, A chymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y prisiedig, yr hwn a brisiodd rhai o feibion Israel,
10a rhoesant hwynt am faes y crochenydd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.
11A safodd yr Iesu gerbron y rhaglaw; a gofynnodd y rhaglaw iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Ac ebe’r Iesu, “Ti sy’n gofyn.”
12A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid nid atebodd ddim.
13Yna dywed Pilat wrtho, “Oni chlywi di pa faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn?”
14Ac nid atebodd iddo, naddo, i ddim un gair, er syndod mawr i’r rhaglaw.
15Ac ar ddydd gŵyl arferai’r rhaglaw ryddhau i’r dyrfa un carcharor a ddewisent.
16Yr oedd ganddynt y pryd hwnnw garcharor hynod, a elwid Barabbas.
17Felly wedi iddynt ymgynnull dywedodd Pilat wrthynt, “Pwy a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi, Barabbas ai Iesu, a elwir Crist?”
18Canys gwyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19A thra oedd ef yn eistedd ar y frawdle danfonodd ei wraig ato, gan ddywedyd, “Na foed dim a wnelych di â’r un cyfiawn hwnnw, canys dioddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.”
20A pherswadiodd yr archoffeiriaid a’r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am Farabbas ac i fwrw’r Iesu i golli.
21Atebodd y rhaglaw iddynt, “Pa un o’r ddau a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi?”
22Dywedasant hwythau, “Barabbas.” Medd Pilat wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf ag Iesu a elwir Crist?” Meddent hwy oll, “Croeshoelier ef.”
23Ebe yntau, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddent hwythau fwyfwy, “Croeshoelier ef.”
24A phan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, fe gymerth ddŵr a golchi ei ddwylo gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, “Glân ydwyf oddi wrth waed y dyn hwn. Rhyngoch chwi a hynny.”
25Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.”
26Yna rhyddhaodd iddynt Farabbas, ond ffrewyllodd yr Iesu, a’i draddodi i’w groeshoelio.
27Yna cymerth milwyr y rhaglaw yr Iesu gyda hwynt i’r plas, a chynullasant ato yr holl gatrawd.
28Ac wedi diosg ei ddillad rhoesant fantell ysgarlad amdano,
29a phlethasant goron o ddrain a’i rhoi ar ei ben a chorsen yn ei law ddehau, a chan benlinio o’i flaen gwatwarasant ef gan ddywedyd, “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”
30A phoerasant arno, a chymerasant y gorsen a’i guro ar ei ben.
31Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y fantell oddi amdano a’i wisgo â’i ddillad ei hun, a dygasant ef ymaith i’w groeshoelio.
32Ac wrth fyned allan cawsant ddyn o Gyrene, a’i enw Simon; a gorfodi hwn i gymryd ei groes ef.
33Ac wedi dyfod i le a elwid Golgotha, hynny yw Lle Penglog,
34rhoesant iddo i’w yfed win wedi ei gymysgu â bustl; ac wedi ei brofi gwrthododd ei yfed.
35Wedi iddynt ei groeshoelio, rhanasant ei ddillad gan fwrw coelbren,
36ac eisteddasant i’w wylied yno.
37Ac uwch ei ben gosodasant ei achos wedi ei ysgrifennu, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.
38Yna croeshoelir gydag ef ddau leidr, un ar y ddehau ac un ar yr aswy.
39A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau
40a dywedyd, “Ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw ydwyt, a disgyn oddi ar y groes.”
41Yr un modd yr archoffeiriaid hefyd a’i gwatwarai gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, ac meddent,
42“Achubodd eraill, ni all ei achub ei hun. Brenin Israel ydyw; disgynned yn awr oddi ar y groes, a chredwn ynddo.
43Y mae’n ymddiried yn Nuw; gwareded ef yn awr, os yw amdano; canys dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf’.”
44Yr un modd hefyd yr oedd y lladron, a groeshoeliwyd gydag ef, yn edliw iddo.
45Ac o’r chweched awr bu tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr.
46Ynghylch y nawfed awr dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y gadewaist fi?”
47A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno, wrth ei glywed, a ddywedai, “Ar Elïas y mae hwn yn galw.”
48Ac yn y fan rhedodd un ohonynt a chymerth ysbwng a’i lenwi â surwin a’i ddodi ar flaen gwialen a’i roi iddo i’w yfed.
49A’r lleill a ddywedodd, “Gad inni weled a ddaw Elïas i’w achub ef.”
50Ond yr Iesu, wedi iddo weiddi drachefn â llef uchel, a ollyngodd ymaith ei ysbryd.
51Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy o’r pen i’r gwaelod; a chrynodd y ddaear, a holltwyd y creigiau,
52ac agorwyd y beddau a chyfododd llawer o gyrff y saint a oedd yn huno;
53a daethant allan o’r beddau wedi iddo ef gyfodi, ac aethant i mewn i’r ddinas santaidd, ac ymddangosasant i lawer.
54A’r canwriad a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, pan welsant y ddaeargryn a’r pethau oedd yn digwydd, ofnasant yn fawr, a dywedyd, “Yn wir mab i dduw oedd hwn.”
55Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych o bell, y rhai a ddilynasai’r Iesu o Galilea gan weini arno;
56yn eu plith yr oedd Mair o Fagdala a Mair mam Iago ac Ioseff a mam meibion Sebedeus.
57Ac wedi iddi hwyrhau daeth dyn cyfoethog o Arimathea, a’i enw Ioseff, a ddaethai yntau yn ddisgybl i’r Iesu.
58Daeth hwn at Bilat, a gofynnodd am gorff yr Iesu. Yna gorchmynnodd Pilat ei roddi.
59A chymerth Ioseff y corff a throi amdano lenlliain lân,
60a dododd ef yn ei fedd newydd a naddasai yn y graig, a threiglodd faen mawr ar ddrws y bedd, ac aeth ymaith.
61Yr oedd yno Fair o Fagdala a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62Trannoeth, sef y dydd wedi’r Darpar, ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Bilat,
63gan ddywedyd, “Syr, cof gennym i’r twyllwr hwnnw ddywedyd, pan oedd eto’n fyw, ‘Wedi tridiau cyfodaf.’
64Felly gorchymyn ddiogelu’r bedd hyd y trydydd dydd, rhag ofn i’r disgyblion ddyfod a’i ddwyn ef, a dywedyd wrth y bobl, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw’ a bydd y twyll olaf yn waeth na’r cyntaf.”
65Ebe Pilat wrthynt, “Gofelwch fod gennych warchodlu; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.”
66Aethant hwythau a gwnaethant y bedd yn ddiogel trwy selio’r maen, heblaw gosod y gwarchodlu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.