1A dylem ni, y rhai cryf, ddwyn gwendidau y rhai nad ydynt gryf, ac nid ein boddhau ein hunain.
2Boddhaed pob un ohonom ei gymydog er daioni, i’w adeiladaeth.
3Canys y Crist yntau nis boddhaodd ei hun; eithr fel yr ysgrifennwyd: Syrthiodd gwaradwyddiadau y sawl a’th waradwyddai di arnaf fi.
22Oherwydd hyn y rhwystrwyd fi hefyd gynifer gwaith rhag dyfod atoch.
23Ond yn awr, gan nad oes gennyf gyfle mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth am ddyfod atoch ers llawer blwyddyn,
24pan elwyf i’r Hispaen (canys gobeithiaf ar fy ffordd gael golwg arnoch a’m hebrwng gennych yno, os caf yn gyntaf fy niwallu â’ch cymdeithas dros dro);
25ond yn awr yr wyf yn mynd i Jerwsalem i weini i’r saint.
26Canys bu’n dda gan Facedonia ac Achaia drefnu cronfa i dlodion y saint yn Jerwsalem;
27bu’n dda ganddynt, meddaf, ac y maent yn eu dyled; canys os o’u pethau ysbrydol hwy y cyfranogodd y cenhedloedd, dylent hwy yn eu tro eu gwasanaethu hwythau mewn pethau cnawdol.
28Wedi cwblhau hyn, felly, a sicrhau iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith i’r Hispaen, heibio i chwi;
29a gwn wrth ddyfod atoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist.
30Ond erfyniaf arnoch, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Ysbryd, ymdrechu gyda mi yn eich gweddïau trosof ar Dduw,
31fel y gwareder fi rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, a bod fy ngweinidogaeth yn Jerwsalem yn gymeradwy gan y saint,
32fel, a mi yn dyfod atoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, y caffwyf orffwys yn eich plith.
33A bydded Duw’r heddwch gyda chwi oll. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.