1A daeth un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt, ac ymddiddanodd â mi gan ddywedyd: Tyrd yma, dangosaf iti’r ddedfryd ar y butain fawr sy’n eistedd ar ddyfroedd lawer,
2yr hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac y meddwodd trigolion y ddaear ar win ei phuteindra.
3A dug fi yn yr ysbryd i anialwch. A gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad, yn enwau cabledd drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn.
4A’r wraig oedd wedi ei gwisgo â phorffor ac ysgarlad, a’i goreuro ag aur ac â charreg werthfawr ac â pherlau, a chanddi yn ei llaw gwpan aur yn llawn ffieidd-derau ac aflan bethau ei phuteindra,
5ac ar ei thalcen enw yn ysgrifenedig, dirgelwch, “Babilon fawr, mam puteiniaid a ffieidd-derau’r ddaear.”
6A gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu. Ac o’i gweled, rhyfeddais â rhyfeddod mawr.
7A dywedodd yr angel wrthyf: Paham y rhyfeddaist? Dywedaf fi wrthyt ddirgelwch y wraig a’i bwystfil, ei chludydd hi, a chanddo’r saith ben a’r deg corn.
8Y bwystfil a welaist, bu ac nid yw, ac y mae ar godi o’r pwll, ac ar y ffordd i ddistryw. A rhyfedda trigolion y ddaear, y sawl nad ysgrifennwyd eu henw ar lyfr y bywyd er seiliad y byd, o weled y bwystfil, iddo fod ac nad yw a’i fod ar ddyfod.
9Dyna’r ystyr sydd â synnwyr iddi. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle’r eistedd y wraig.
10Ac y mae saith brenin; cwympodd pump, erys un, ni ddaeth y llall eto, a phan ddêl, rhaid yw iddo aros ychydig.
11A’r bwystfil, a fu ac nad yw, wythfed yw yntau, ac y mae o’r saith, ac ar ei ffordd i ddistryw.
12A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai na dderbyniasant eto frenhiniaeth, eithr awdurdod fel brenhinoedd am un awr a dderbyniant gyda’r bwystfil.
13Y mae’r rhain yn unfryd, a rhoddant eu gallu a’u hawdurdod i’r bwystfil.
14Rhyfela’r rhain â’r Oen, a gorchfyga’r Oen hwynt, canys Arglwydd arglwyddi yw a Brenin brenhinoedd, a chydag ef hefyd y rhai galwedig ac etholedig a ffyddlon.
15A dywed wrthyf: Y dyfroedd a welaist, lle’r eistedd y butain, pobloedd a thyrfaoedd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd.
16A’r deg corn a welaist, a’r bwystfil, hwy a gasânt y butain a’i gwneuthur yn ddiffaith a noeth, a bwytânt ei chnawd hi, a’i llosgi â thân;
17oblegid rhoddes Duw yn eu calonnau wneuthur ei fwriad ef, a bod yn unfryd, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil hyd oni chyflawner geiriau Duw.
18A’r wraig a welaist yw’r ddinas fawr sydd ganddi frenhiniaeth ar frenhinoedd y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.