1Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes, a’i phlant yr wyf i yn eu caru yn y gwirionedd, ac nid myfi’n unig ond pawb sy’n adnabod y gwirionedd,
2oherwydd y gwirionedd sydd yn aros ynom, a chyda ni y bydd yn dragywydd.
3Bydd gyda ni ras, trugaredd, tangnefedd oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
4Llawenychais yn ddirfawr o gael o’th blant rai’n rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn oddi wrth y Tad.
5Ac yn awr yr wyf yn deisyf arnat, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd atat, ond un oedd gennym o’r dechrau, garu ohonom ein gilydd.
6A hyn yw cariad, rodio ohonom yn ôl Ei orchmynion Ef. Hwn yw’r gorchymyn fel y clywsoch o’r dechrau, rodio ohonoch ynddo, —
7oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i’r byd, sydd yn gwadu dyfodiad Iesu Grist mewn cnawd. Dyma’r twyllwr a’r Anghrist.
8Cedwch olwg arnoch eich hunain rhag i chwi ddifa yr hyn a weithiasom, ond derbyn ohonoch gyflawn dâl.
9Nid yw Duw gan neb eithafol ac nad yw’n aros yn athrawiaeth Crist. Yr hwn sy’n aros yn yr athrawiaeth, y mae’r Tad a’r Mab ganddo,
10Os daw rhywun atoch heb fod yn dwyn yr athrawiaeth hon, na dderbyniwch ef i’r tŷ, ac na ddywedwch “dydd da” wrtho.
11Y mae’r hwn sy’n dywedyd “dydd da” wrtho yn cyfranogi yn ei weithredoedd drwg ef.
12Er bod gennyf lawer o bethau, ni ddewisais ysgrifennu atoch ar ddu a gwyn, ond yr wyf yn gobeithio cael bod gyda chwi a siarad wyneb yn wyneb fel y bydd ein llawenydd yn gyflawn.
13Y mae plant dy etholedig chwaer yn cofio atat.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.