1Hefyd, frodyr, egluro yr wyf i chwi, — am yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yr hon hefyd y sefwch ynddi,
2drwy’r hon hefyd y’ch cedwir, — â pha ymadrodd y pregethais i chwi, o deliwch fyth ar gof, oddieithr credu’n ofer ohonoch.
3Canys traddodais i chwi yn bennaf peth yr hyn a dderbyniais hefyd, sef farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau,
4a darfod ei gladdu, a chyfodi ohono ar y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau;
5a darfod ei weled gan Gephas, yna gan y deuddeg.
6Yna, gwelwyd ef gan uwchlaw pum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai yr erys y rhan fwyaf hyd yr awr hon, ond fe hunodd rhai.
7Wedi hynny, fe’i gwelwyd gan Iago, yna gan yr apostolion i gyd.
8Ac yn ddiwethaf oll, fe’i gwelwyd gennyf innau hefyd, megis gan yr erthyl.
9Canys y lleiaf o’r apostolion wyf i, nad wyf deilwng i’m galw yn apostol, am ddarfod i mi erlid eglwys Dduw.
10Ond trwy ras Duw yr ydwyf y peth ydwyf; a’i ras ef tuag ataf i, nid ofer fu, ond yn helaethach na hwynt oll y llafuriais, nid myfi chwaith, ond gras Duw gyda mi.
11Yna, pa un bynnag ai myfi ai hwynt-hwy, felly y pregethwn ac felly y credasoch.
12Eto os pregethir Crist, ddarfod ei gyfodi ef oddiwrth feirwon, pa wedd y dywed rhywrai yn eich plith nad oes atgyfodi meirwon?
13Canys, onid oes atgyfodi meirwon, ychwaith Crist nis cyfodwyd.
14Ac os Crist nis cyfodwyd, yna, gwegi ein pregethu ni, gwag hefyd eich ffydd chwithau.
15Fe’n ceffir ninnau hefyd yn dystion gau yn erbyn Duw, canys tystiasom yn erbyn Duw gyfodi ohono’r Crist, ac nis cyfododd, os wedi’r cwbl meirwon nis cyfodir.
16Canys os meirwon nis cyfodir, yna, ni chyfodwyd Crist ychwaith.
17Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau.
18Yna, cyfrgollwyd y rhai hefyd a hunodd yng Nghrist.
19Os gobeithio yng Nghrist yn y bywyd hwn a wnaethom, a dim ond hynny, truanach na phawb oll ydym.
20Ond, fel y mae, fe a gyfodwyd Crist oddiwrth feirwon, yn flaenffrwyth y rhai a hunodd.
21Canys, a bod trwy ddyn farwolaeth, trwy ddyn hefyd atgyfodiad meirwon.
22Ac megis yn Addaf y mae pawb yn marw, felly hefyd yng Nghrist y bydd bywhau pawb.
23Ond pob un yn ei reng ei hun, Crist yn flaenffrwyth, yna, eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef;
24wedi hynny, y diwedd, pan draddodo ef y deyrnas i Dduw a’r Tad, wedi y diddymo ef bob penaduraeth a phob awdurdod a nerth.
25Canys rhaid teyrnasu ohono hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed.
Salm 110:1.26Diwethaf gelyn a ddifodir, yr angau.
27Canys darostyngodd bob peth tan ei draed ef.
Salm 8:6. Ond pan ddywed ddarostwng popeth, eglur mai oddieithr hwnnw a ddarostyngodd iddo ef bopeth.28Pan fo darostyngedig iddo bopeth, yna hefyd darostyngir y Mab yntau i’r hwn a ddarostyngodd iddo bopeth, fel y byddo Duw gwbl yng nghwbl.
29Os amgen, ynteu, pa beth a wnânt hwy, a fedyddir ar ran y meirw? Oni chyfodir y meirw ddim, paham ynteu y bedyddir ar eu rhan hwy?
30A phaham yr ydym ninnau hefyd mewn perigl bob awr?
31Beunydd yr wyf yn marw, myn y gorfoledd amdanoch chwi, frodyr, y sydd i mi yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni.
32Os ar wedd dyn yr ymleddais i â bwystfiledd yn Ephesos, pa les i mi? Oni chyfyd y meirw, bwytawn ac yfwn, canys yfory marw y byddwn.
Esa. 22:13.33Na chyfeiliornwch — y mae cyfathrach ddrwg yn distrywio cymeriadau da.
34Ymddadebrwch o ddifrif, ac na phechwch, canys anwybod am Dduw sydd ar rai. Er cywilydd i chwi y llefaraf wrthych fel hyn.
35Ond fe ddywed rhywun: Pa fodd y cyfyd y meirwon? Ac â pha ryw gorff y deuant?
36O, ynfyd! Y peth y byddi di yn ei hau, ni fywheir mono oni bydd marw.
37A’r peth y byddi di yn ei hau, nid y corff a ddyfydd a heui, onid gronyn noeth, ysgatfydd o ŷd neu ryw rawn arall.
38Ond Duw a rydd iddo gorff fel y mynnodd ef, ac i bob un o’r hadau ei gorff ei hun.
39Nid unrhyw gnawd pob cnawd, eithr amgen eiddo dynion, ac amgen cnawd anifail, amgen hefyd cnawd adar ac amgen eiddo pysgod.
40Hefyd cyrff nefol a chyrff daearol; eithr anghyfryw yw gogoniant y rhai nefol, ac anghyfryw hefyd eiddo’r rhai daearol.
41Amgen gogoniant haul, ac amgen gogoniant lloer, ac amgen gogoniant sêr. Canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
42Felly hefyd atgyfodiad y meirwon. Heuir mewn llygredd, cyfodir mewn anllygredigaeth;
43heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Heuir corff anianol, cyfodir corff ysbrydol.
44Od oes gorff anianol, y mae hefyd un ysbrydol.
45Felly ysgrifenedig yw hefyd: Gwnaethpwyd y dyn cyntaf Addaf yn enaid byw,
Gen. 2:7. a’r Addaf diwethaf yn ysbryd a bair fywhau.46Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol, wedyn yr ysbrydol.
47Y dyn cyntaf o ddaear, yn briddlyd,
Gen. 2:7. yr ail dyn o nef.48Megis y priddlyd, cyfryw hefyd y rhai priddlyd; ac megis y mae’r nefol, cyfryw hefyd y nefolion.
49Ac megis y dygasom arwedd y dyn priddlyd, dygwn hefyd arwedd y dyn nefol.
50Eithr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr: na ddichon cnawd a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, nac ychwaith lygredd etifeddu anllygredigaeth.
51Wele! dirgelwch a fynegaf i chwi: ni hunwn ni oll, ond oll fe’n newidir mewn eiliad, ar darawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf.
52Canys fe utgenir, a chyfodir y meirwon yn anllygredig, ac fe’n newidir ninnau.
53Canys rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.
54A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y dyfydd y gair a ysgrifennwyd: llyncwyd yr angau mewn buddugoliaeth.
Esa. 25:8.55Pa le, angau, y mae dy fuddugoliaeth di? Pa le, angau, y mae dy golyn?
Hos. 13:14.56Canys colyn angau, pechod yw, a grym pechod, y gyfraith yw.
57Ond i Dduw y diolch, iddo ef y sy’n rhoddi i ni fuddugoliaeth drwy ein Harglwydd ni, Iesu Grist.
58Am hynny, fy mrodyr anwylion, byddwch sefydlog a diymod a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd bob amser, gan wybod nad ofer mo’ch llafur chwi yn yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.