1 Corinthiaid 8 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Drachefn, parthed yr aberthau i eilunod, gwyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn peri ymchwyddo, eithr cariad yn adeiladu.

2Od oes neb yn tybied ei fod wedi cael hyd i ryw wybodaeth, nid yw eto’n gwybod fel y dylid gwybod.

3Eithr od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adweinir ganddo Ef.

4Gyda golwg, felly, ar fwyta o aberthau’r eilunod, “gwyddom nad oes (y fath beth ag) eilun yn y byd, ac nad oes Dduw namyn un.”

5Canys hyd yn oed od oes yr hyn a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef ai ar y ddaear, — megis, yn wir, y mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer, —

6er hynny, i ni, un Duw, y Tad (y sydd) o’r hwn y mae pob dim, a ninnau erddo, ac un Arglwydd, Iesu Grist, drwy’r hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.

7Eithr nid ym mhawb y mae gwybodaeth. Canys y mae rhai, oblegid eu cynefindra hyd yr awron â’r eilun, yn bwyta (o’r cig) fel aberth eilun, ac y mae eu cydwybod, â hi’n wan, yn cael ei halogi.

8Ond bwyd ni’n gesyd yn gymeradwy ger bron Duw. Oni fwytawn, ni byddwn ar ein colled; os bwytawn, ni byddwn ar ein hennill.

9Gwyliwch rhag, mewn rhyw fodd, i’ch rhyddid hwn droi’n dramgwydd i’r rhai gwan.

10Canys o gwêl rhywun dydi, sydd â “gwybodaeth” gennyt, yn eistedd (i fwyta) yn nheml yr eilun, onid “adeiledir” ei gydwybod ef, ag yntau’n wan, nes bwyta aberthau eilunod?

11Canys dinistrir y gwan drwy dy “wybodaeth” di, sef y brawd y bu Crist farw erddo.

12Canys wrth droseddu yn erbyn y brodyr, a tharo eu cydwybod yn ei gwendid, yn erbyn Crist yr ydych yn troseddu.

13Oherwydd hyn, od yw bwyd yn peri i’m brawd dramgwydd, ni fwytâf i gig ddim yn dragywydd, fel na thramgwyddwyf fy mrawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help