Hosea 9 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Na lawenhâ, Israel, hyd orfoledd, fel y bobloedd,

Canys puteiniaist oddiwrth dy Dduw;

Ceraist gyflog ar bob llawrdyrnu yd.

2Ni phortha llawrdymu na gwin-gafn mohonynt,

A thwylla melyswin hi.

3Ni thrigant yn nhir Iafe,

Ond dychwel Effraim i’r Aifft,

A bwytânt beth halog yn Asyria.

4Ni thywalltant win i Iafe,

Ac ni bydd eu hebyrth gymeradwy ganddo,

Bydd megis bara gofidiau iddynt,

Ymhaloga pawb a’i bwytao,

Canys bydd eu bara iddynt hwy eu hunain,

Ni ddaw i dŷ Iafe.

5Beth a wnewch ar ddydd y ddefod-ŵyl,

Ac ar ddydd pererindod Iafe?

6Canys wele aethant o’r difrod,

Yr Aifft a’u cynnull,

Memffis a’u cladd,

Danadl a feddianna eu dymunol bethau o arian,

Mieri a fydd yn eu pebyll.

7Daeth dyddiau’r gofwy,

Daeth dyddiau’r tâl;

Caiff Israel wybod,

Ynfyd yw’r proffwyd,

Gorffwyll yw gŵr yr ysbryd;

Am amlder dy anwiredd,

Am amlder y casineb.

8Gwyliedydd yw Effraim gyda’m Duw

Magl adarwr yw’r proffwyd ar ei holl ffyrdd,

Casineb sydd yn nhŷ ei Dduw.

9Ymlygrasant yn ddwfn

Fel yn nyddiau Gibeah,

Fe gofia’u hanwiredd,

Gofwya’u pechodau.

10Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais Israel,

Fel ffrwyth cynnar ar ffigysbren yn ei ddechreuad

Y gwelais eich tadau;

Deuthant hwy i Faal-peor,

Ac ymgyflwyno i’r Cywilydd,

Ac aethant yn ffieidd-dra fel yr hyn a garent.

11Am Effraim, ehed eu gogoniant ymaith fel aderyn,

Heb esgor, a heb famogaeth, a heb feichiogi;

12Er iddynt fagu eu meibion,

Eto diblantaf hwynt fel na bo dyn;

Gwae hwynt hefyd, ynteu,

Pan ymadawyf oddiwrthynt.

13Am Effraim, fel y gwelais Dyrus

Wedi ei thrawsblannu o ran cyfaneddle,

Felly Effraim, yn dwyn ei feibion allan at y lleiddiad.

14Dyro iddynt, Iafe, — pa beth a roddi?

Dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion.

15Y mae eu holl ddrygioni yng Ngilgal,

Canys yno y caseais hwynt;

Am ddrygioni eu harferion gyrraf hwynt allan o’m tŷ;

Ni charaf hwynt mwy,

Ystyfnig yw eu holl dywysogion.

16Trawyd Effraim, gwywodd eu gwraidd,

Ni ddygant ffrwyth;

Ïe, os esgorant,

Lladdaf anwyliaid eu croth.

17Gwrthyd fy Nuw hwynt,

Canys ni wrandawsant arno,

A byddant grwydriaid ymhlith y cenhedloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help