Datguddiad 2 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1At angel yr eglwys yn Effesus ysgrifenna:

Dyma a ddywed yr hwn sy’n dal y saith seren yn ei ddeheulaw, yr hwn sy’n rhodio ynghanol y saith ganhwyllbren aur:

2Gwn am dy weithredoedd di a’th lafur a’th amynedd, ac na elli oddef rhai drwg, ac iti brofi’r rhai a’u geilw eu hunain yn apostolion, a hwythau heb fod, ac iti eu cael yn gelwyddog;

3ac y mae gennyt amynedd, a goddefaist o achos fy enw i ac ni flinaist.

4Eithr y mae gennyf yn dy erbyn iti golli dy gariad cyntaf.

5Cofia felly o b’le y cwympaist, ac edifarha a gwna’r gweithredoedd cyntaf; ac onid e, dof atat a symudaf dy ganhwyllbren o’i le, onid edifarhei.

6Ond hyn sydd gennyt, dy fod yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai a gasâf finnau hefyd.

7Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: I’r hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd sydd ym mharadwys Duw.

8Ac at angel yr eglwys yn Smyrna ysgrifenna:

Dyma a ddywed y cyntaf a’r olaf, a fu farw ac a ddaeth yn fyw:

9Gwn am dy flinfyd a’th dlodi, eithr cyfoethog ydwyt; ac am gabledd y rhai a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod amgen na synagog Satan.

10Nac ofna’r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele y mae’r diafol ar fedr bwrw rhai ohonoch i garchar i’ch profi, a chewch flinfyd am ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhoddaf iti goron y bywyd.

11Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: Yr hwn sy’n gorchfygu, ni chaiff niwed oddi wrth yr ail farwolaeth.

12Ac at angel yr eglwys ym Mhergamus ysgrifenna:

Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo’r cleddau deufin llym:

13Gwn ym mh’le y trigi, lle y mae gorsedd Satan; ac yr wyt yn dal gafael yn fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i hyd yn oed yn y dyddiau y lladdwyd Antipas fy nhyst ffyddlon i yn eich plith chwi, lle y trig Satan.

14Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, — bod gennyt yna rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgai i Falac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, sef bwyta pethau a aberthwyd i eilunod a phuteinio.

15Felly hefyd y mae gennyt tithau rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid yr un modd.

16Edifarha gan hynny; onid e, dof ar frys a rhyfelaf gyda hwynt â chleddau fy ngenau.

17Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: I’r hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo o’r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd yn ysgrifenedig nas edwyn neb ond a’i derbynio.

18Ac at angel yr eglwys yn Thyatira ysgrifenna:

Dyma a ddywed Mab Duw, y sydd â’i lygaid fel fflam dân a’i draed yn debyg i bres gloyw-eirias:

19Gwn am dy weithredoedd a’th gariad a’th ffydd a’th wasanaeth a’th amynedd, a bod dy weithredoedd diwethaf yn amlach na’r rhai cyntaf.

20Eithr y mae gennyf yn dy erbyn dy fod yn goddef y wraig Jesebel, a’i geilw ei hun yn broffwydes, ac a ddysg ac a arwain ar gyfeiliorn fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod.

21A rhoddais iddi amser i edifarhau, ac ni fyn edifarhau am ei phuteindra.

22Wele bwriaf hi ar wely, a’r rhai sy’n godinebu gyda hi i flinfyd mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi;

23a’i phlant, lladdaf hwy â marwolaeth; a gwybydd yr holl eglwysi mai myfi yw chwiliwr arennau a chalonnau, a rhoddaf i chwi bob un yn ôl eich gweithredoedd.

24Ond dywedaf wrthych chwi, y gweddill yn Thyatira, cynifer ag na ddaliant yr athrawiaeth hon, y sawl nad adnabuant, ys dywedant, ddyfnderau Satan: Ni fwriaf arnoch faich arall;

25yn unig deliwch afael yn yr hyn sydd gennych hyd oni ddelwyf.

26A’r hwn sy’n gorchfygu ac yn cadw hyd y diwedd fy ngweithredoedd i, rhoddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd —

27bugeilia ef hwynt â gwialen haearn, fel llestri pridd y malurir hwynt —

28megis y derbyniais innau awdurdod gan fy Nhad, a rhoddaf iddo hefyd y seren fore.

29Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help