1 Timotheus 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Gwir yw y gair. Os yw neb yn chwennych arolygiaeth, gorchwyl anrhydeddus y mae yn ei chwennych.

2Dylai arolygwr fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn sobr, yn bwyllog, yn weddus, yn lletygar, yn athrawaidd:

3nid yn feddwyn, nid yn ymladdgar, eithr yn ddyn teg, digynnen, anariangar;

4yn rheoli ei deulu ei hun yn iawn, a chadw ei blant mewn trefn gyda phob parchusrwydd

5(oni ŵyr dyn sut i reoli ei deulu ei hun, pa fodd y gofala dros eglwys Dduw?);

6nid yn newyddian, rhag iddo ymchwyddo a dyfod dan gollfarn diafol.

7Dylai gael gair da gan y rhai oddi allan, rhag iddo syrthio dan warth ac i fagl diafol.

8Yr un modd dylai diaconiaid fod yn barchus, nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn fudrelwyr,

9yn cadw cyfrinach y ffydd mewn cydwybod bur.

10A rhodder y rhain hefyd ar brawf yn gyntaf; yna, os byddant yn ddiargyhoedd, byddent ddiaconiaid.

11Dylai eu gwragedd yr un modd fod yn barchus, nid yn rhai enllibus, ond yn sobr, ffyddlon ym mhopeth.

12Boed diaconiaid yn wŷr un wraig, yn rheoli eu plant yn iawn a’u tai eu hunain.

13Canys y rhai a wasnaethodd yn deilwng fel diaconiaid sydd yn ennill iddynt eu hunain safle anrhydeddus a hyder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.

14Y pethau hyn a sgrifennaf atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder,

15fel y gwypych, os oedaf, pa fodd y dylid ymddwyn yn nheulu Duw y sydd eglwys Duw byw, colofn ac ateg y gwirionedd.

16Ac addefedig yw, mawr yw cyfrinach duwioldeb;

Yr hwn a amlygwyd yn y cnawd,

A gyfiawnhawyd yn yr ysbryd,

A welwyd gan angylion,

A gyhoeddwyd ymhlith y cenhedloedd,

Y credwyd ynddo yn y byd,

A gymerwyd i fyny mewn gogoniant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help