1A phan neshânt at Gaersalem, at Fethphage a Bethania ger mynydd yr Olewydd, fe enfyn ddau o’i ddisgyblion,
2a dywed wrthynt, “Ewch i’r pentref gyferbyn â chwi, ac yn y fan wrth fynd i mewn iddo chwi gewch ebol yn rhwym, un nad eisteddodd neb dyn erioed arno; gollyngwch ef, a dygwch ymaith.
3Ac os dywed neb wrthych, ‘Paham y gwnewch hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar yr Arglwydd ei eisiau; ac yn y man fe’i henfyn yn ol yma.’ ”
4Ac aethant ymaith, a chawsant ebol yn rhwym wrth ddrws allan ar yr heol; a gollyngant ef.
5A rhai o’r rhai oedd yno’n sefyll a ddywedai wrthynt, “Beth a wnewch yn gollwng yr ebol?”
6Dywedasant hwythau wrthynt fel y dywedasai’r Iesu; a gadasant iddynt.
7A dygant yr ebol at yr Iesu, a bwriant arno’u dillad, ac eisteddodd yntau arno.
8A llawer a daenodd eu dillad ar y ffordd, ac eraill fanwydd a dorasent o’r meysydd.
9A’r rhai a ragflaenai a’r rhai a ddilynai oedd yn llefain:
“Hosanna!
Bendigedig yw’r hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd;
10Bendigedig yw’r deyrnas sy’n dyfod, teyrnas ein tad Dafydd;
Hosanna yn y goruchafion!”
11Ac fe aeth i mewn i Gaersalem i’r deml; ac wedi edrych o amgylch ar bopeth, a’r awr weithian yn hwyr, fe aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg.
12A thrannoeth, pan aethant allan o Fethania, daeth arno eisiau bwyd.
13Ac wedi gweled ffigyswydden o hirbell ag arni ddail, fe aeth i weled tybed a gaffai ddim arni; ac wedi dyfod ati ni chafodd arni ddim ond dail, canys nid oedd yn amser ffigys.
14Ac fe atebodd, a dywedodd wrthi, “Byth bythoedd mwyach na fwytaed neb ffrwyth ohonot ti.” A chlywai ei ddisgyblion.
15A deuant i Gaersalem. Ac wedi iddo fynd i mewn i’r deml dechreuodd fwrw allan y gwerthwyr a’r prynwyr yn y deml; a byrddau’r cyfnewidwyr arian a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod a ddymchwelodd;
16ac ni adai i neb ddwyn llestr drwy’r deml.
17A dechreuodd ddysgu, a dywedyd wrthynt “Onid yw’n ysgrifenedig, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd?
27A deuant drachefn i Gaersalem. Ac wrth iddo rodio yn y deml daw ato’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid,
28ac meddent wrtho, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? neu bwy roes i ti’r awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?”
29A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Mi ofynnaf i chwi un gair, ac atebwch fi, a dywedaf wrthych trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.
30Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? Atebwch fi.”
31Ac ymresyment â’i gilydd gan ddywedyd, “Os dywedwn ‘O’r nef,’ fe ddywed, ‘Paham ynteu na chredasoch iddo?’
32Eithr a ddywedwn ni ‘O ddynion’?” — ofnent y dyrfa; canys pawb a syniai am Ioan mewn gwirionedd mai proffwyd oedd.
33Ac atebasant yr Iesu, a dywedant, “Nis gwyddom.” A dywed yr Iesu wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.