1Ac at angel yr eglwys yn Sardis ysgrifenna:
Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a’r saith seren: Gwn am dy weithredoedd; y mae gennyt enw dy fod yn fyw, ond marw ydwyt.
2Bydd wyliadwrus, a chryfha’r pethau sydd yngweddill ac ar ddarfod amdanynt. Canys ni chefais gennyt weithredoedd cyflawn gerbron fy Nuw;
3cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw ac edifarha. Am hynny oni fyddi wyliadwrus, deuaf megis lleidr, ac ni chei wybod pa awr y dof arnat.
4Ond y mae gennyt ychydig enwau yn Sardis na halogasant eu dillad, a rhodiant gyda mi mewn gwyn, canys teilwng ydynt.
5Yr hwn sy’n gorchfygu, gwisgir ef felly mewn dillad gwynion, ac ni ddileaf ei enw o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef.
6Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.
7Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia ysgrifenna:
Dyma a ddywed y sanctaidd, y cywir, yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo, ef sy’n agor ac ni chly neb, ac yn cloi ac nid egyr neb:
8Gwn am dy weithredoedd; wele rhoddais o’th flaen ddrws agored na ddichon neb ei gloi; ychydig allu sydd gennyt, a chedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw.
9Wele rhof rai o synagog Satan, o’r sawl a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod, eithr dywedyd celwydd y maent; wele gwnaf iddynt ddyfod ac ymgrymu wrth dy draed a gwybod imi dy garu di.
10Am iti gadw gair fy amynedd i, cadwaf finnau di rhag awr y prawf sydd ar ddyfod ar yr holl fyd, i brofi’r sawl sy’n trigo ar y ddaear,
11Yr wyf yn dyfod yn fuan; dal dy afael yn yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron.
12Yr hwn sy’n gorchfygu, gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw, ac allan nid â mwyach, ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw ac enw dinas fy Nuw, y Jerwsalem newydd sy’n disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw, a’m henw newydd innau.
13Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.
14Ac at angel yr eglwys yn Laodicea ysgrifenna:
Dyma a ddywed yr Amen, y tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw:
15Gwn am dy weithredoedd nad wyt nac oer na brwd; o na bait oer neu frwd;
16felly, gan mai claear wyt, heb fod na brwd nac oer, yr wyf ar fedr dy chwydu allan o’m genau.
17Am y dywedi, Cyfoethog wyf ac ymgyfoethogais ac nid oes arnaf angen dim, ac na wyddost mai tydi yw’r truan a’r gresynus a’r tlawd a’r dall a’r noeth,
18cynghoraf di i brynu gennyf aur wedi ei buro drwy dân fel y byddych gyfoethog, a dillad gwynion fel y’th wisger ac na ddelo cywilydd dy noethni i’r golwg, ac eli i iro dy lygaid fel y gwelych.
19Yr wyf fi’n ceryddu ac yn disgyblu cynifer ag a garaf; bydd selog ynteu ac edifarha.
20Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw neb fy llais ac agoryd y drws, dof i mewn ato a swperaf gydag ef ac yntau gyda minnau.
21Yr hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac eistedd gyda’m Tad ar ei orsedd ef.
22Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.