1Ond am y pethau yr ysgrifenasoch yn eu cylch, gwiw i ddyn na chyffyrddo â gwraig.
2Ond oherwydd y godinebu y sydd, boed i bob un ei wraig ei hun, a boed i bob gwraig ei phriod ŵr.
3Rhodded y gŵr i’w wraig yr hyn sydd ddyledus iddi, a’r un wedd y wraig hefyd i’w gŵr.
4Y wraig, nid oes iddi awdurdod ar ei chorff ei hun, namyn i’w gŵr, a’r un wedd y gŵr hefyd, nid oes iddo awdurdod ar ei gorff ei hun, namyn i’w wraig.
5Na chamateliwch oddiwrth eich gilydd yr hyn sydd ddyledus, oddieithr o gytundeb dros amser, fel y caffoch egwyl i weddi a thrachefn ddyfod ynghŷd, fel na’ch temtio Satan oherwydd eich anymatal.
6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd trwy oddef, nid fel gorchymyn.
7Ond mynnwn fod pob dyn megis minnau hefyd, eithr y mae i bob un ei briod ddawn o Dduw, i’r naill fel hyn, i’r llall fel arall.
8Ond dywedyd yr wyf wrth y dibriod a’r gwragedd gweddwon, gwiw iddynt aros megis minnau hefyd.
9Eithr oni allant ymatal, priodent, canys gwell priodi nag ymlosgi.
10Ond i’r rhai priod eisoes, yr wyf yn gorchymyn, — nid myfi ond yr Arglwydd, — nad ymadawo gwraig oddiwrth ei gŵr.
11Ond os ymedy hefyd, arhoed heb briodi neu cymoder hi â’i gŵr — a’r gŵr, yntau, na ollynged ymaith ei wraig.
12Ond wrth y lleill dywedaf — myfi, nid yr Arglwydd — o bydd i ryw frawd wraig anghredadun, a honno yn cydsynio i fyw gydag ef, na ollynged hi ymaith.
13A gwraig y bo iddi ŵr anghredadun, a hwnnw yn cydsynio i fyw gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr.
14Canys cysegrwyd y gŵr anghredadun yn ei wraig, a chysegrwyd y wraig anghredadun yn y “brawd”; os amgen, dyna’ch plant yn aflan, ond yn awr sanctaidd ydynt.
15Ond os yr anghredadun sydd am ymadael, ymadawed; nid yw’r brawd neu’r chwaer yn gaeth yn y cyfryw, eithr i heddwch y’ch galwodd Duw.
16Canys beth a wyddost ti, wraig, a achubi di dy ŵr? Neu beth a wyddost ti, ŵr, a achubi di dy wraig?
17Eithr pob un, fel y mae Duw wedi rhannu iddo, pob un fel y mae’r Arglwydd wedi ei alw, dalied i rodio, ac felly yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll.
18Ai yn enwaededig y galwyd neb? Na cheisied guddio hynny; ai yn ddienwaededig y galwyd neb? Na cheisied enwaedu arno.
19Enwaediad nid yw ddim na dienwaediad chwaith, eithr cadw gorchmynion Duw.
20Arhosed pob un yn yr alwad y galwyd ef ynddi.
21Ai gwas oeddit pan alwyd di? Na foed hynny yn ddrwg gennyt; ond o gelli ddyfod yn ŵr rhydd, dewis hynny yn hytrach na pheidio.
22Canys y gŵr a alwyd yn yr Arglwydd ac ef yn gaethwas, gŵr rhyddhäedig yr Arglwydd yw; a’r un modd yr hwn a alwyd ac ef yn rhydd, caethwas Crist ydyw.
23Er gwerth y’ch prynwyd; na ddeuwch yn gaethion dynion.
24Arhosed pob un ger bron Duw, frodyr, yn yr ystâd honno y galwyd ef ynddi.
25Drachefn, am y gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd, eithr barn yr wyf yn ei rhoddi fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.
26Tybiai gan hynny mai hyn sydd dda oherwydd yr anghenraid sy’n pwyso arnom, sef mai da i ddyn fod fel y mae.
27Ai rhwym wyt wrth wraig? Na chais ollyngdod; ai rhydd wyt oddiwrth wraig? Na chais wraig;
28a hyd yn oed pe priodit, ni phechaist; ac o phrioda gwyry, ni phechodd; eithr blinder i’r cnawd a gaiff y cyfryw rai, ond yr wyf i am eich arbed chwi.
29Ond dyma a ddywedaf, frodyr, cwtogwyd yr amser; fel o hyn allan y bo’r rhai â chanddynt wragedd megis pe na bai ganddynt,
30a’r rhai sy’n wylo megis pe na baent yn wylo, a’r rhai sy’n llawenhau megis pe na baent yn llawenhau, a’r rhai sy’n prynu megis pe na baent yn meddiannu,
31a’r rhai sy’n trafod y byd megis pe na baent yn ennill dim o’i drafod; canys myned heibio y mae dull y byd hwn.
32Ond mynnwn eich bod chwi yn ddibryder. Y mae’r dibriod yn pryderu am bethau’r Arglwydd, pa fodd y bodlono’r Arglwydd;
33ond y gŵr priod, pryderu y mae am bethau’r byd, pa fodd y bodlono’i wraig,
34ac fe’i rhannwyd. A’r wraig ddibriod a’r forwyn pryderu y maent am bethau’r Arglwydd, fel y bo sanctaidd gorff ac ysbryd; ond yr hon sydd briod, pryderu y mae am bethau’r byd, pa wedd y rhyngo fodd i’w gŵr.
35A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er eich budd chwi eich hunain, nid i fwrw magl arnoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd, ac fel y boch yn llwyr at alwad yr Arglwydd heb fod dim yn eich croesdynnu.
36Ond od oes rywun yn barnu ei fod yn ymddwyn yn anweddus tuagat ei wyry, o bydd yn or-nwydus, a rhaid i hynny fod felly, gwnaed a fynno; nid yw’n pechu; priodent.
37Ond y neb a saif yn ddiysgog yn ei galon, heb fod dan orfod, ond â chanddo lywodraeth ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynodd hyn yn ei galon ei hun, sef cadw ei wyry fel y cyfryw, da y gwnâ.
38Felly, ar y naill law, y neb a briodo ei wyry ei hun, da y gwnâ, ac ar y llaw arall, y neb ni phriodo, gwell y gwnâ.
39Y mae gwraig yn rhwym cyhyd ag y bo byw ei gŵr; ond os huna’r gŵr, rhydd ydyw i briodi’r neb a fynno — yn unig yn yr Arglwydd.
40Ond dedwyddach ydyw od erys fel y mae, yn fy marn i. A thybiaf fod Ysbryd Duw gennyf innau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.