1 Corinthiaid RHAGAIR - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)
RHAGAIRUn yw’r gwaith hwn o’r gyfres o gyfieithiadau a gyhoeddir dan nawdd Adran Ddiwinyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Oherwydd anhawsterau ar ffordd Pwyllgor Cyfieithu Aberystwyth, buwyd yn hwy gyda’r gorchwyl nag y disgwylid, a dymunwn yma fynegi bod yn ddrwg gennym na bai’r llyfryn allan o’r wasg yn llawer cynt. Iawn i ni hefyd gydnabod na orwedd dim o’r bai ar y cyhoeddwyr.Dilynwyd testun Nestle, oddieithr lle dangoso’r nodiadau ar waelod y dail yn amgen. Ni newidiwyd dim ar yr hen gyfieithiad er mwyn newid. Gyda golwg ar enwau priod, barnwyd mai addas oedd cadw at ffurf Roeg rhai o’r iaith honno (megis Timotheos), eithr gan mai anghyson, o leiaf, ysgrifennu Paul a seinio Pôl, ac mai dieithr, efallai, fyddai Pawlos, anturiwyd arfer y ffurf Gymraeg ar yr enw. Ni fwriedid i’r pethau hyn fod yn derfynol. Pan fyddis yn cynnull y cyfieithiadau oll at ei gilydd, gellir penderfynu ynghŷd ar y ffurfiau a farner yn oreu. Oherwydd ein hawydd i osgoi oediad hwy nag a osododd amgylchiadau arnom, ni allasom fanteisio cymaint ag a fynnem ar garedigrwydd ein cyd-lafurwyr yn y gorchwyl hwn. T. Gwynn Jones, Cadeirydd. E. D. T. Jenkins, Ysgrifennydd. J. Young Evans. W. Jenkyn Jones. Herbert Morgan. T. H. Parry-Williams. Aberystwyth, Medi 30, 1926.EGLURHADY TESTUNRhennir y testun yn baragraffau, ac argreffir pob paragraff yn ddidor. Dodir rhif pob pennod ac adnod ar yr ymyl gyferbyn a’i dechreu. Argreffir dyfyniadau mewn llythyren dduach.Y NODIADAUDynoda “Neu” gyfieithiad posibl arall o’r Groeg.At y Corinthiaid I.