1Ac ymgasgla ato’r Phariseaid a rhai o’r ysgrifenyddion a ddeuthai o Gaersalem.
2Ac wedi iddynt weled rhai o’i ddisgyblion ef, mai â dwylo cyffredin, hynny yw heb eu golchi, y bwytaent eu bara,
3— canys y Phariseaid a’r holl Iddewon, heb olchi eu dwylo’n ddyfal ni fwytânt, gan ddal traddodiad yr hynafiaid;
4a dim o’r farchnad heb iddynt ei daenellu nis bwytânt; a llawer o bethau eraill y sydd, a dderbyniasant i’w dal, golchi cwpanau a godardau a llestri pres, —
5ac fe ofyn y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, “Paham na rodia dy ddisgyblion di yn ol traddodiad yr hynafiaid, yn lle bwyta’u bara â dwylo cyffredin?”
6Dywedodd yntau wrthynt, “Gwych y proffwydodd Esaias amdanoch chwi’r rhagrithwyr, fel y mae’n ysgrifenedig,
Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda,
ond eu calon sydd bell oddiwrthyf;
7 ond yn ofer y’m haddolant
gan ddysgu fel athrawiaethau osodiadau dynion.
8Gollwng yr ydych orchymyn Duw, a dal traddodiad dynion.”
9Ac meddai wrthynt, “Gwych y gwrthodwch orchymyn Duw fel y cadwoch eich traddodiad chwi.
10Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam,
17A phan aeth i’r tŷ oddiwrth y dyrfa, gofynnai ei ddisgyblion iddo am y ddameg.
18Ac medd ef wrthynt, “Felly, ydych chwithau’n ddi-ddeall? Oni welwch na ddichon dim oddi allan sy’n mynd i mewn i’r dyn ei halogi,
19am nad â i mewn i’w galon ef, ond i’w gylla, ac allan i’r geudy?” — gan gyhoeddi’n lân bob bwydydd.
20Ac meddai, “Y peth sy’n dyfod allan o’r dyn, hwnnw a haloga’r dyn.
21Canys o’r tu mewn o galon dynion y daw allan ystrywiau drwg, anniweirdeb, lladradau, llofruddiaethau,
22godinebau, trachwantau, anfadrwydd, dichell, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchter, ynfydrwydd;
23yr holl ddrygau hyn, o’r tu mewn y deuant allan, a halogi’r dyn.”
24Ac oddiyno cododd, ac aeth ymaith i ororau Tyrus. Ac aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni allodd ymguddio.
25Eithr yn ebrwydd clywodd gwraig amdano, a chan ei merch fach ysbryd aflan; a hi ddaeth, a syrthiodd wrth ei draed;
26a’r wraig oedd Roeges, Syropheniciad o genedl; a gofynnai iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch.
27Ac meddai ef wrthi, “Gad yn gyntaf ddiwallu’r plant; canys nid teg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r corgwn.”
28Atebodd hithau, ac medd wrtho, “Ië, Syr; ac eto y mae’r corgwn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.”
29A dywedodd ef wrthi, “Am y gair yna dos, fe aeth y cythraul allan o’th ferch.”
30Ac aeth hithau adref, a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a’r cythraul wedi mynd allan.
31A thrachefn aeth ef ymaith o ororau Tyrus, a daeth drwy Sidon hyd fôr Galilea yng nghanol gororau Decapolis.
32A dygant ato un byddar a diffyg ar ei barabl, ac erfyniant arno ddodi arno’i law.
33Ac wedi iddo fynd ag ef oddiwrth y dyrfa ar ei ben ei hun, fe roes ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi poeri fe gyffyrddodd â’i dafod ef;
34ac edrychodd i fyny i’r nef, ac ocheneidiodd; ac medd wrtho, “Ephphatha,” hynny yw, “Agorer di.”
35Ac agorwyd ei glustiau ef, ac yn y fan datodwyd rhwym ei dafod, a llefarai’n groyw.
36A gorchmynnodd iddynt na ddywedent wrth neb; ond pa faint bynnag a orchmynnai ef iddynt, mwy o lawer y cyhoeddent hwythau.
37A mwy na mwy y synnent, gan ddywedyd, “Gwych y gwnaeth ef bopeth; fe wna hyd yn oed i’r byddariaid glywed, ac i fudion lefaru.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.