Datguddiad 7 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Wedi hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt nac ar y ddaear nac ar y môr nac ar un pren.

2A gwelais angel arall yn esgyn o’r dwyrain, a chanddo sêl y Duw byw, a gwaeddodd â llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt niweidio’r ddaear a’r môr,

3gan ddywedyd: Na niweidiwch na’r ddaear na’r môr na’r coed, nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau.

4A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedwar deg a phedwar o filoedd, wedi eu selio o bob llwyth o feibion Israel:

5O lwyth Jwda deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Reuben deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Gad deuddeng mil wedi eu selio.

6O lwyth Aser deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Naffthali deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Manase deuddeng mil wedi eu selio.

7O lwyth Simeon deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Lefi deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Isachar deuddeng mil wedi eu selio.

8O lwyth Sabulon deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Joseff deuddeng mil wedi eu selio.

O lwyth Benjamin deuddeng mil wedi eu selio.

9Wedi hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, a mentyll gwynion amdanynt, a phalmwydd yn eu dwylo.

10A gwaeddant â llais uchel, gan ddywedyd:

Eiddo ein Duw sy’n eistedd ar yr orsedd, ac eiddo’r Oen, yw’r iachawdwriaeth.

11A safai’r holl angylion o gylch yr orsedd a’r henuriaid a’r pedwar peth byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addolasant Dduw,

12gan ddywedyd:

Amen, y mawl a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch a’r anrhydedd a’r gallu a’r grym sydd eiddo ein Duw yn oes oesoedd. Amen.

13A chyfarchodd un o’r henuriaid fi a dywedyd: Y rhain a’r mentyll gwynion amdanynt, pwy ydynt, ac o b’le y daethant?

14Dywedais innau wrtho: F’arglwydd, tydi sy’n gwybod. Dywedodd yntau wrthyf: Dyma’r rhai sy’n dyfod allan o’r blinfyd mawr, ac a olchodd eu mentyll a’u cannu yng ngwaed yr Oen.

15Oherwydd hynny y maent o flaen gorsedd Duw, a gwasnaethant ef ddydd a nos yn ei gysegr, a’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd a babella drostynt.

16Ni newynant mwy, ac ni sychedant mwy; ni ddisgyn arnynt na’r haul na dim gwres,

17oblegid yr Oen y sydd ynghanol yr orsedd a’u bugeilia bwynt ac a’u tywys at ffynhonnau dyfroedd bywyd; a sych Duw ymaith bob deigryn o’u llygaid hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help