Amos 9 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Gwelais fy Arglwydd yn sefyll ar yr allor,

A dywedodd, “Taro’r capan

Fel y cryno’r rhiniogau,

A thor hwynt oll ymaith yn y pen,

A lladdaf y gweddill ohonynt â chleddyf,

Ni ffy iddynt ffoadur,

Ac nid achubir iddynt un dihangol.

2Pe cloddient hyd Sheôl,

Oddi yno y cymerai fy llaw hwynt;

A phe dringent i’r nefoedd,

Oddi yno y dygwn hwynt i lawr;

3A phe llechent ym mhen Carmel,

Ceisiwn hwynt, a chymerwn hwynt oddi yno;

A phed ymguddient o ŵydd fy llygaid yng ngwaelod y môr,

Oddi yno y gorchmynnwn i’r sarff eu brathu;

4A phed elent mewn caethiwed o flaen eu gelynion,

Oddi yno y gorchmynnwn i’r cleddyf eu lladd,

A gosodwn fy llygaid arnynt

Er drwg ac nid er da.”

5A’m Harglwydd, Iafe’r lluoedd —

Y sy’n cyffwrdd â’r ddaear fel y toddo,

A galara’r holl drigianwyr arni,

Cyfyd hithau yn ei chrynswth fel yr Afon,

Ac ymsudda fel Afon yr Aifft;

6Y sy’n adeiladu ei stafelloedd yn y nefoedd,

A sylfaenu ei entrych ar y ddaear;

Y sy’n galw ar ddyfroedd y môr,

A’u tywallt ar wyneb y ddaear,

Iafe yw ei enw.

7“Onid megis Meibion Cwshi ydych i mi, Feibion

Israel?”

Medd Iafe.

“Oni ddygais Israel i fyny o wlad yr Aifft,

A’r Philistiaid o Gafftor, ac Arâm o Gir?”

8Wele lygaid fy Arglwydd Iafe ar y deyrnas bechadurus,

“Dilëaf hi oddi ar wyneb y ddaear,

Eto ni lwyr ddifrodaf Dŷ Iacob.”

Medd Iafe.

9“Canys wele fi’n gorchymyn,

Ac ysgytiaf Dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd,

Fel yr ysgytir mewn gogr,

Ac ni syrth caregan i’r ddaear.

10Drwy gleddyf y bydd farw holl bechaduriaid fy mhobl

Y sy’n dywedyd

‘Ni ddygi ddrwg yn agos,

Na pheri iddo achub y blaen arnom o amgylch.’ ”

11“Yn y dydd hwnnw, codaf fwth syrthiedig Dafydd,

A chaeaf ei adwyon,

A chodaf ei adfeilion,

Ac adeiladaf ef fel yn yr amser gynt,

12Fel y meddiannont weddill Edom,

A’r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,”

Medd Iafe y sy’n gwneuthur hyn.

13“Wele ddyddiau’n dyfod,” medd Iafe,

“Y goddiwedd yr arddwr y medelwr,

A’r sathrwr grawnwin yr heuwr had,

A defnynna’r mynyddoedd win melys,

A thawdd yr holl fryniau.

14Yna dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel,

Ac adeiladant ddinasoedd anghyfannedd,

A phreswyliant hwynt;

Plannant hefyd winllannoedd,

Ac yfant eu gwin;

A gwnant erddi,

A bwytânt eu ffrwyth.

15Ie, plannaf hwynt ar eu tir,

Ac nis diwreiddir mwy

Oddi ar eu tir a roddais iddynt.”

Ebr Iafe dy Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help