Actau'r Apostolion 6 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Helenistiaid yn erbyn yr Hebreaid am esgeuluso eu gweddwon hwynt yn y ddarpariaeth feunyddiol.

2A galwodd y deuddeg y lliaws disgyblion atynt, a dywedyd, “Nid da ein bod ni’n gadael gair Duw a gweini wrth fyrddau;

3edrychwch, frodyr, am saith o wŷr o’ch plith ag iddynt air da, yn llawn ysbryd a doethineb, i ni i’w gosod ar hyn o orchwyl;

4a ninnau, parhau a wnawn yn ddyfal mewn gweddi ac yng ngwasanaeth y gair.”

5A bu dda gan yr holl liaws y gair, ac etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd a’r Ysbryd Glân, a Phylip a Phrochorus a Nicanor a Thimon a Pharmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia;

6y rhain a osodasant ger bron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant eu dwylo arnynt.

7A chynyddai gair Duw, ac amlhâi nifer y disgyblion yng Nghaersalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ymostyngai i’r ffydd.

8A Steffan, yn llawn gras a nerth, a wnâi ryfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl.

9A chyfododd rhai o wŷr Synagog y Libertiniaid a’r Cyreniaid a’r Alecsandriaid (fel y gelwid hi), ac o wŷr Cilicia ac Asia, gan ymddadlau â Steffan;

10ac ni allent wrthsefyll y doethineb a’r ysbryd y llefarai drwyddo.

11Yna annos gwŷr a wnaethant i ddywedyd, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus am Foesen a Duw.”

12A chynhyrfu’r bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion a wnaethant, a dyfod arno a’i gipio a’i ddwyn i’r Sanhedrin;

13gosodasant gau dystion hefyd i ddywedyd, “Ni phaid y dyn yma â llefaru pethau yn erbyn y Lle santaidd hwn a’r Gyfraith;

14canys clywsom ef yn dywedyd y dymchwelai Iesu’r Nasaread yma y Lle hwn ac y newidiai’r defodau a draddododd Moesen i ni.”

15A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel petai wyneb angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help