Marc 13 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac wrth iddo fynd allan o’r deml, fe ddywed un o’i ddisgyblion wrtho, “Athro, gwêl y fath feini, a’r fath adeiladau!”

2A dywedodd yr Iesu wrtho, “Weli di’r adeiladau mawr yma? Ni adewir maen ar faen a’r nis dymchwelir.”

3Ac fel yr eisteddai ef ar fynydd yr Olewydd gyferbyn â’r deml, gofynnai Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo o’r neilltu,

4“Dywed wrthym pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddyfod i ben.”

5A dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrthynt, “Edrychwch na bo i neb eich twyllo.

6Llawer a ddaw yn fy enw i gan ddywedyd ‘Myfi yw’; a llawer a dwyllant.

7A phan glywoch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, na chyffrowch; rhaid eu dyfod,

cyfyd gau-gristiau a gau-broffwydi, a gwnant arwyddion a rhyfeddodau

Deut. 13:1. i dwyllo, o bydd modd, yr etholedigion.

23Ond edrychwch chwi; rhagfynegais i chwi bopeth.

24Eithr yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder, hwnnw, yr haul a dywyllir, a’r lloer ni rydd ei llewych,

Esa. 13:10.

25a’r sêr a fydd yn syrthio o’r nef, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a ysgydwir.

Esa. 34:4.

26Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cymylau

Dan. 7:13. gyda gallu mawr a gogoniant.

27Ac yna’r enfyn ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf daear hyd eithaf nef.

Sech. 2:6; Deut. 30:4.

28Ond oddiwrth y ffigyswydden dysgwch y ddameg: wedi’r êl ei changen weithian yn ir, ac y taflo ddail, chwi wyddoch fod yr haf yn agos;

29felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drws.

30Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon heibio ddim hyd oni ddigwyddo hyn oll.

31Y nef a’r ddaear a â heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio.

32Ond am y dydd hwnnw neu’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion yn y nef, na’r Mab, ond y Tad.

33Edrychwch, byddwch effro; canys ni wyddoch pa bryd y mae’r amser.

34Fel dyn oddicartref a adawodd ei dŷ, ac a roes i’w weision yr awdurdod, i bob un ei waith; ac i’r porthor y gorchmynnodd wylio.

35Gwyliwch gan hynny, canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai’r hwyr, ai hanner nos, ai’r plygain, ai’r bore;

36rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu.

37A’r hyn a ddywedaf wrthych chwi a ddywedaf wrth bawb, ‘Gwyliwch.’ ”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help