1Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy’r meysydd ŷd; a daeth eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreuasant dynnu tywys a bwyta.
2A’r Phariseaid wrth weled a ddywedodd wrtho, “Dyma dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn ni ddylid ei wneuthur ar y Sabbath.”
3Dywedodd yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch beth a wnaeth Dafydd pan ddaeth eisiau bwyd arno a’r rhai oedd gydag ef?
4pa fodd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytasant y torthau gosod, peth ni ddylasai ef ei fwyta, na’r rhai a oedd gydag ef, ond yr offeiriaid yn unig?
5Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y deml yn halogi’r Sabbath, ac eto eu bod yn ddieuog?
6Ac meddaf i chwi, y mae mwy na’r deml yma!
7Ond pe gwybuasech beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth, ni chondemniasech y dieuog.
8Canys arglwydd y Sabbath yw Mab y dyn.”
9Ac ymadawodd oddi yno, a daeth i’w synagog hwynt.
10A dyma ddyn â llaw wywedig. A gofynasant iddo, “A ddylid iacháu ar y Sabbath?” fel y cyhuddent ef.
11Dywedodd yntau wrthynt, “Pa ddyn ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno ar y Sabbath i bwll, ni chydia ynddi a’i chodi?
12Pa faint amgenach, ynteu, ydyw dyn na dafad? Felly fe ddylid gwneuthur da ar y Sabbath.”
13Yna medd ef wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd hi’n iach fel y llall.
14Ac aeth y Phariseaid allan, ac ymgyngorasant yn ei erbyn, pa fodd y difethent ef.
15Ond gwybu’r Iesu, a chiliodd oddi yno. A dilynodd llawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt oll,
16a rhybuddiodd hwynt nas amlygent ef,
17fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd,
18 “Wele fy ngwas yr hwn a ddewisais,
fy anwylyd a fu wrth fodd fy enaid;
gosodaf fy ysbryd arno,
a barn i’r cenhedloedd a gyhoedda.
19 Nid ymrafaelia ac ni chrochlefa,
ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
20 Corsen ysig nis tyr,
a llin yn mygu nis diffydd,
hyd oni ddygo’r farn i fuddugoliaeth.
21 Ac yn ei enw ef y gobeithia cenhedloedd.”
22Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac fe’i hiachaodd nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweled.
23A synnai’r holl dyrfaoedd, a dywedent, “Ai hwn yw mab Dafydd?”
24A chlywodd y Phariseaid, a dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan y cythreuliaid ond trwy Feelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.”
25Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun ni saif.
26Ac os Satan a fwrw allan Satan, yn ei erbyn ei hun yr ymrannodd; pa fodd, ynteu, y saif ei deyrnas?
27Ac os drwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny byddant hwy yn farnwyr arnoch.
28Ond os drwy ysbryd Duw yr ydwyf i yn bwrw’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch.
29Neu pa fodd y dichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn ac ysbeilio’i ddodrefn ef, heb yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ysbeilio’i dŷ ef?
30Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru.
31Am hyn meddaf i chwi, pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd nis maddeuir.
32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir iddo nac yn yr oes hon nac yn yr oes a ddaw.
33Naill ai cyfrifwch fod y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, ai cyfrifwch fod y pren yn sâl a’i ffrwyth yn sâl; canys wrth ei ffrwyth yr adweinir y pren.
34Epil gwiberod, pa fodd y gellwch lefaru pethau da a chwithau’n ddrwg? Canys o orlawnder y galon y llefaraf genau.
35Y dyn da o’i drysor da a ddwg allan bethau da, a’r dyn drwg o’i drysor drwg a ddwg allan bethau drwg.
36Ac meddaf i chwi, pob gair ofer a lefaro dynion, rhoddant gyfrif amdano yn nydd y farn.
37Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.”
38Yna’r atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, gan ddywedyd; “Athro, dymunwn weled arwydd gennyt.”
39Atebodd yntau iddynt, “Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd Ionas y proffwyd.
40Canys fel y bu Ionas ym mol y morfil dridiau a theirnos, felly y bydd Mab y dyn yng nghalon y ddaear dridiau a theirnos.
41Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemnia; canys edifarhasant hwy wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma.
42Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac ai condemnia; canys daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma.
43Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydro drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, ac nis caiff.
44Yna fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’; ac wedi dyfod fe’i caiff yn wag ac yn lân ac yn ddestlus.
45Yna yr â, ac y cymer gydag ef saith o ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.”
46Ac ef eto’n llefaru wrth y tyrfaoedd, dyma’i fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad ag ef.
47[A dywedodd rhywun wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad â thi.”]
48Atebodd yntau i’r hwn a lefarai wrtho, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?”
49Ac estynnodd ei law at ei ddisgyblion, a dywedodd, “Dyma fy mam a’m brodyr;
50canys pwy bynnag a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd, ef sy frawd i mi, a chwaer, a mam.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.