Actau'r Apostolion 17 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Wedi iddynt deithio trwy Amffipolis ac Apolonia, deuthant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon.

2Ac yn ôl arfer Paul fe aeth i mewn atynt, ac am dri Saboth anerchodd hwynt allan o’r ysgrythurau,

3gan esbonio a dyfynnu profion bod yn rhaid i’r Crist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai “dyma’r Crist, — yr Iesu a gyhoeddaf fi i chwi.”

4A chredodd rhai ohonynt a bwrw eu coelbren gyda Phaul a Silas, — o’r Groegiaid a addolai Dduw liaws mawr, ac o’r gwragedd blaenaf nid ychydig.

5Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dyhirod o blith segurwyr y sgwâr a chasglu torf, peri terfysg a wnaent yn y ddinas; ac ymosodasant ar dŷ Iason, a cheisio eu dwyn hwynt allan ger bron y bobl.

6A phan nas cawsant hwynt dechreuasant lusgo Iason a rhai brodyr o flaen y Politarchiaid, gan lefain, “Y rhain, a droes y byd wyneb i waered, yma hefyd y deuthant,

7a rhoes Iason lety iddynt; a’r rhain i gyd, ymddygant yn groes i ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd mai un arall, Iesu, sydd frenin.”

8A chyffrowyd y dyrfa a’r Politarchiaid pan glywsant hyn,

9eithr wedi cael mechnïaeth gan Iason a’r lleill gollyngasant hwynt.

10A danfonodd y brodyr Baul a Silas yn ebrwydd o hyd nos i Ferea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon.

11Yr oedd y rhain yn fwy boneddigaidd na’r rhai yn Thesalonica, a derbyniasant y gair gyda phob parodrwydd, gan chwilio’r ysgrythurau beunydd i weld a oedd hyn felly.

12Llawer ohonynt, felly, a gredodd, ac o’r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr, nid ychydig.

13Ond wedi i Iddewon Thesalonica ddyfod i wybod cyhoeddi o Baul air Duw ym Merea hefyd, deuthant yno i derfysgu a chyffroi’r torfeydd.

14Ar hynny danfonodd y brodyr Baul yn ebrwydd, i gyrchu tua’r môr; ac arhosodd Silas a Thimotheus yno.

15A’r rhai a hebryngai Baul, dygasant ef hyd Athen, ac wedi iddynt dderbyn siars i Silas a Thimotheus i ddyfod ato gyntaf y gallent, aethant ymaith.

16A thra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddid ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.

17Felly anerchai yn y synagog yr Iddewon a’r rhai a addolai Dduw, ac ymddiddan yn y sgwâr bob dydd â’r rhai a hapiai fod yno.

18A rhai hefyd o’r athronwyr, Epicwriaid a Stoiciaid, a ddadleuai ag ef, a dywedai rhai, “Beth a fynnai’r chwiwleidr yma ei ddywedyd?” Ac ebr eraill, “Ymddengys mai pregethwr duwiau dieithr yw.” Canys traethu’r newydd da yr oedd am yr Iesu a’r atgyfodiad.

19A chymerasant afael arno, a’i ddwyn at yr Areopagus, gan ddywedyd, “A allwn gael gwybod beth yw’r ddysgeidiaeth newydd hon a draethir gennyt ti?

20Canys rhyw bethau anghyffredin a ddygi i’n clustiau ni. Dymunwn, felly, gael gwybod beth yw meddwl y pethau hyn.”

21(Nid oedd gan yr holl Atheniaid a’r dieithriaid ar ymweliad hamdden i ddim arall ond i adrodd neu glywed rhywbeth newydd sbon.)

22A safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, a dywedyd: “Wŷr Athen, gwelaf ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddol.

23Canys wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich cysegrfannau cefais hyd yn oed allor ag arni’n ysgrifenedig, I DDUW ANHYSBYS. Yr hyn, ynteu, a addolwch heb ei adnabod, hynny a gyhoeddaf fi i chwi.

24Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, hwnnw, ac yntau’n Arglwydd nef a daear,

Salm 146:5–6. ni phreswylia mewn temlau o waith llaw;

25nis gwasanaethir chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen dim, yr hwn a rydd ei hun i bawb fywyd ac anadl

Esa. 42:5. a’r cwbl oll.

26Gwnaeth hefyd o un bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan bennu cyfnodau gosodedig a therfynau eu preswylfod,

27i geisio ohonynt Dduw, os gallant rywfodd ymbalfalu amdano a’i gael, ac yntau’n wir heb fod nepell oddiwrth neb un ohonom.

28Oblegid ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod, fel y dywedodd, yn wir, rai o’ch beirdd chwi:

‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’

29A ni, felly, yn hiliogaeth Duw ni ddylem dybied bod y Duwdod yn debig i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn.

30Yn awr, edrychodd Duw heibio i amserau’r anwybod, ond bellach cyhoedda i ddynion fod i bawb ym mhobman edifarhau,

31am iddo osod diwrnod y barn ef y byd mewn cyfiawnder

Salm 9:8. trwy ŵr a benododd, ac fe roes brawf i bawb wrth ei atgyfodi o feirw.”

32A phan glywsant am atgyfodiad meirwon, gwawdiai rhai; ond dywedai eraill, “Fe’th wrandawn eto drachefn am hyn.”

33Felly aeth Paul ymaith o’u mysg;

34ond ymlynodd rhai gwŷr wrtho a chredu, ac yn eu plith Dionysius, aelod o’r Areopagus, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help