1A thrachefn dechreuodd ddysgu ar lan y môr; ac ymgasgla ato dyrfa ddirfawr, nes iddo fynd i long, ac eistedd ynddi ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir.
2A dysgai iddynt lawer ar ddamhegion, a dywedai wrthynt yn ei ddysgeidiaeth,
3“Gwrandewch: wele, fe aeth yr heuwr allan i hau.
4A digwyddodd, wrth hau, i beth syrthio hyd y ffordd, a daeth yr adar, a’i ddifa.
5Ac arall a syrthiodd ar y creigle, lle nid oedd iddo fawr ddaear; ac yn ebrwydd y tarddodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.
6A phan gododd yr haul, fe’i deifiwyd; ac am nad oedd iddo wreiddyn, fe wywodd.
7Ac arall a syrthiodd i’r drysi; a thyfodd y drysi, a’i dagu; a ffrwyth ni roes.
8Ac eraill a syrthiodd i’r tir da; a rhoent ffrwyth yn dyfadwy a thoreithiog; a chnydient hyd ddeg-ar-hugain, a hyd drigain, a hyd gant.”
9Ac meddai, “Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.”
10A phan gafwyd ef wrtho’i hun, dechreuodd y rhai oedd o’i gylch gyda’r deuddeg ei holi am y damhegion.
11Ac meddai wrthynt, “I chwi y rhodded cyfrinach teyrnas Dduw; ond i’r rhai acw sydd allan, ar ddamhegion y bydd y cwbl,
12fel
er gweled a gweled, na chanfyddont,
ac er clywed a chlywed, na ddeallont,
rhag ysgatfydd iddynt droi a maddeu iddynt.”
13Ac eb ef wrthynt, “Ni wyddoch y ddameg hon! A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14Yr heuwr sydd yn hau’r gair.
15Y rhain yw’r rhai hyd y ffordd lle’r heuir y gair, y rhai wedi y clywont, yn ebrwydd daw Satan, a dwg ymaith y gair a heuwyd ynddynt.
16A’r rhain yr un modd yw’r rhai a heuir ar y creigleoedd, y rhai, wedi y clywont y gair, yn ebrwydd â llawenydd a’i derbyn ef;
17ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros ennyd y maent; yna pan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y meglir hwynt.
18Ac eraill yw’r rhai a heuir yn y drysi; y rhain yw’r rhai a glywodd y gair,
19a phryderon y byd, a hudoliaeth golud, a’r chwantau ynghylch y cyffelyb bethau, a ddaw i mewn, ac a dag y gair; a diffrwyth fydd.
20A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ar y tir da, y rhai a glyw’r gair ac a’i derbyn; a dygant ffrwyth hyd ddeg-ar-hugain, a hyd dri gain, a hyd gant.”
21Ac meddai wrthynt, “Tybed a ddaw’r gannwyll i’w dodi dan y celwrn neu dan y gwely? Onid i’w dodi ar y canhwyllbren?
22Canys nid oes dim yn guddiedig onid i’w amlygu; ac ni bu ddirgel ond i ddyfod i’r amlwg.
23Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.”
24Ac meddai wrthynt, “Edrychwch beth a wrandewch. Â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwithau, a chwaneg a roddir i chwi.
25Canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.”
26Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw, fel y bwrw dyn yr had ar y ddaear,
27a chysgu a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu y modd nis gŵyr ef.
28Ohoni ei hun y dwg y ddaear ffrwyth, yn gyntaf eginyn, yna tywysen, yna yd llawn yn y dywysen.
29Ond pan addfedo’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhy’r cryman ar waith,
canys daeth y cynhaeaf.”30Ac meddai, “Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y rhown hi?
31Fel i ronyn o had mwstard, yr hwn, wedi yr heuer ar y ddaear, er mai lleiaf yw o’r holl hadau sydd ar y ddaear,
32eto wedi yr heuer ef, a dyf ac a ddaw’n fwyaf o’r holl lysiau, ac a ddwg ganghennau mawr, fel y gall adar y nefoedd nythu dan ei gysgod.”
Dan. 4:12, 21; Esec. 17:23, 31:6.33Ac â llawer o’r fath ddamhegion y llefarai wrthynt y gair, yn ol fel y gallent wrando;
34a heb ddameg ni lefarai wrthynt, ond ar ei ben ei hun i’w ddisgyblion ei hun fe eglurai bopeth.
35Ac medd ef wrthynt y diwrnod hwnnw gyda’r nos, “Awn drosodd i’r ochr draw.”
36Ac wedi iddynt ollwng y dyrfa, cymerant ef fel yr oedd yn y llong; a llongau eraill oedd gyda hi.
37A chyfyd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau oedd yn lluchio i’r llong, nes bod y llong yn awr yn llenwi.
38Ac ef oedd yn y pen ol ar y gobennydd yn cysgu; a dihunant ef, a dywedant wrtho, “Athro, ai difater gennyt ein colli ni?”
39Ac fe ddeffrôdd, a cheryddodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, “Ust! taw!” A gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.
40A dywedodd wrthynt hwy, “Paham yr ydych yn ofnus fel hyn? Pa fodd nad oes gennych ffydd?”
41Ac ofnasant ag ofn mawr, a dywedent wrth ei gilydd, “Pwy tybed yw hwn, fod hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.