Actau'r Apostolion 28 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Ac wedi i ni ddyfod yn ddiogel y gwybuom mai Melita y gelwid yr ynys. Ac fe ddangosodd

2y brodorion i ni garedigrwydd anghyffredin; cynnau tân a wnaethant, a’n cymell ni ato oherwydd y glaw a’n goddiweddodd ac oherwydd yr oerfel.

3Ac fe gasglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo’u dodi ar y tân fe ddaeth gwiber allan gan y gwres, a glynu wrth ei law ef.

4A phan welodd y brodorion yr anifail ynghrog wrth ei law ef, dywedent wrth ei gilydd, “Yn sicr llofrudd yw’r dyn yma, ac er ei ddyfod yn ddiogel o’r môr ni adodd Cyfiawnder iddo fyw.”

5Beth bynnag, ysgydwodd yntau’r anifail ymaith i’r tân, ac ni chafodd ddim drwg.

6Disgwylient hwythau iddo ddechrau chwyddo neu syrthio’n sydyn yn gorff; ond a hwy’n hir ddisgwyl ac yn gweled nad oedd dim neilltuol yn digwydd iddo, newid eu meddwl a wnaethant, a dywedyd ei fod yn dduw.

7Ac yn y gymdogaeth honno yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Poplius, yr hwn a’n derbyniodd ni ac a’n lletyodd dridiau yn gymwynasgar.

8A digwyddodd bod tad Poplius yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o gryd a chan waedlif; ac fe ddaeth Paul ato, ac wedi iddo weddïo a dodi ei ddwylo arno fe’i hiachaodd.

9Ac wedi gwneuthur hyn y lleill hefyd oedd dan afiechyd yn yr ynys a ddeuai ato, ac fe’u meddyginiaethid; hwythau,

10anrhydeddasant ni ag anrhydeddau lawer, ac wrth i ni gychwyn ymaith fe’n llwythasant ni â phethau ar gyfer ein rheidiau.

11Ac wedi tri mis cychwynasom ymaith mewn llong a aeafasai yn yr ynys, llong o Alecsandria, a’r Dioscwri yn arwydd arni.

12Ac wedi i ni dirio yn Syracwsae, arosasom, yno dridiau, ac oddiyno wedi bwrw ymaith deuthom i Regium.

13Ac ar ôl un diwrnod cododd deheuwynt, a’r ail ddydd deuthom i Bwteoli;

14yno cawsom frodyr, a dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; ac felly y deuthom i Rufain.

15Ac wedi i’r brodyr oddiyno glywed amdanom, deuthant i gyfarfod â ni hyd Farchnad Appius a’r Tair Tafarn; a phan welodd Paul hwynt, fe ddiolchodd i Dduw a chymerth galon.

16A phan aethom i mewn i Rufain, fe ganiatawyd i Baul drigo wrtho’i hun gyda’r milwr oedd yn ei wylied.

17Ac ar ôl tridiau y galwodd ynghyd y rhai a oedd yno’n flaenaf o’r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd fe ddywedai wrthynt, “Er na wneuthum i, frodyr, ddim yn erbyn y Bobl na defodau’r tadau, fe’m traddodwyd yn garcharor o Gaersalem i ddwylo’r Rhufeinwyr; a hwythau,

18wedi iddynt fy holi, ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd ddim achos marwolaeth ynof.

19Ond a’r Iddewon yn dywedyd yn erbyn, fe orfuwyd arnaf apelio at Gesar, nid am fod gennyf, ddim i’w achwyn ar fy nghenedl.

20O achos hyn, ynteu, y’ch cymhellais chwi i ymweled ac ymddiddan â mi; canys oherwydd gobaith Israel y mae gennyf y gadwyn hon amdanaf.”

21Dywedasant hwythau wrtho, “Ni dderbyniasom ddim llythyrau amdanat ti o Iwdea, ac ni ddaeth neb o’r brodyr yma i fynegi na llefaru dim sy ddrwg amdanat ti.

22Ond iawn y tybiwn glywed gennyt ti beth yr wyt yn ei synied, oblegid am y sect hon hysbys yw i ni y dywedir yn ei herbyn ym mhobman.”

23A phennu diwrnod a wnaethant iddo, a deuthant ato i’w lety yn dyrfa, ac iddynt yr esboniai, gan ddwys dystiolaethu am deyrnas Dduw, a cheisio eu perswadio ynghylch yr Iesu allan o Gyfraith Moesen ac o’r Proffwydi o fore tan hwyr.

24A rhai a gredai yr hyn a ddywedid, a rhai ni chredent;

25ac a hwy mewn anghytgord â’i gilydd, ymadael yr oeddynt, a Phaul yn dywedyd un gair: “Gwych y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Esaias y proffwyd wrth eich tadau chwi, gan ddywedyd:

26 Dos at y bobl yma a dywed,

Clywch, ie, clywch, ac ni ddeëllwch ddim,

a gwelwch, ie, gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim;

27 canys brashawyd calon y bobl yma,

ac â’u clustiau, trwm y clywsant,

a’u llygaid hwynt a gaeasant;

rhag byth y canfyddont â’u llygaid,

ac â’u clustiau y clywont,

ac â’u calon y deallont ac y trônt,

ac yr iachawyf hwynt.

28Bydded hysbys, felly, i chwi mai i’r Cenhedloedd yr anfonwyd yr iechydwriaeth Duw

Salm 67:2. yma; fe wrandawant hwy.”

30Ac fe arhosodd ddwy flynedd gyfan mewn llety preifat a rentai, ac fe dderbyniai bawb a ddeuai i mewn ato,

31gan gyhoeddi teyrnas Dduw a dysgu am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help