Colosiaid 3 - University of Wales Guild of Graduates Translation 1945 (NT, Hosea, Amos)

1Gan hynny, os cydgyfodasoch â Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.

2Rhoddwch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau ar y ddaear.

3Canys buoch farw, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.

4Pan amlyger Crist, ein bywyd ni, yna chwithau gydag ef a amlygir mewn gogoniant.

5Marwhewch gan hynny yr aelodau sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, nwyd, chwant drwg, a thrachwant gan mai eilunaddoliaeth yw:

6o’u plegid y daw digofaint Duw,

7ac ynddynt y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt.

8Ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd yr holl bethau hyn ymaith o’ch genau, digofaint, llid, drygioni, cabledd, ymadrodd brwnt.

9Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan i chwi ddiosg yr hen ddyn gyda’i weithredoedd,

10a gwisgo amdanoch y dyn newydd a adnewyddir i wybodaeth yn ôl delw ei grewr,

11lle nid oes Roegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth na rhydd, ond Crist yn bob peth ac ym mhob peth.

12Gan hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch dosturi calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hirymaros,

13gan gydymddwyn â’ch gilydd a maddau i’ch gilydd, o bydd gan un gwyn yn erbyn neb: ac megis y maddeuodd yr Arglwydd i chwi gwnewch chwithau hefyd yr un modd:

14dros yr holl bethau hyn gwisgwch gariad, sy’n rhwymyn perffeithrwydd.

15A thangnefedd Crist, y’ch galwyd iddo mewn un corff, a lywodraetho yn eich calonnau chwi; a byddwch ddiolchgar.

16Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, gan ddysgu a rhybuddio eich gilydd ym mhob doethineb, yn canu gyda salmau, emynau, ac odlau ysbrydol, mewn diolchgarwch yn eich calonnau i Dduw;

17a pha beth bynnag a wneloch mewn gair neu weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dad drwyddo ef.

18Chwi wragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr megis y gweddai yn yr Arglwydd.

19Chwi wŷr, cerwch eich gwragedd ac na fyddwch chwerw wrthynt.

20Chwi blant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd gymeradwy yn yr Arglwydd.

21Chwi dadau, na chythruddwch eich plant, fel na ddigalonnont.

22Chwi weision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd, nid mewn llygad-wasanaeth fel rhai yn boddio dynion, eithr mewn unplygrwydd calon, a chwi yn ofni yr Arglwydd.

23Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch o galon megis i’r Arglwydd ac nid i ddynion,

24gan wybod mai oddi wrth yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth. Gwasanaethwch yr Arglwydd, Crist.

25Canys yr hwn a wna anghyfiawnder a dderbyn yr anghyfiawnder yn ôl, ac nid oes derbyn wyneb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help