1Ac wedi iddo fynd drachefn i Gapernaum ymhen dyddiau, clywyd ei fod yn tŷ.
2Ac ymgasglodd llawer, fel nad oedd mwyach le hyd yn oed wrth y drws; a llefarai wrthynt y gair.
3A deuant ato ag un parlysedig a gludid gan bedwar.
4A chan na allent ei ddwyn hyd ato o achos y dyrfa, didoesant y to lle’r oedd; ac wedi torri trwodd, gollyngant y gwely lle gorweddai’r parlysedig.
5A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywed wrth y parlysedig, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”
6Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yno’n eistedd, ac yn ymresymu yn eu calonnau,
7“Beth y mae hwn fel hyn yn ei siarad? Cablu y mae; pwy all faddeu pechodau ond un — Duw?”
8Ac yna gwybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, a dywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch fel hyn yn eich calonnau?
9Beth sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y parlysedig, ‘Maddeuwyd dy bechodau,’ ai dywedyd, ‘Cyfod a chymer dy wely a rhodia’?
10Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn i faddeu pechodau ar y ddaear,” — eb ef wrth y parlysedig,
11“Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, cymer dy wely, a dos adref.”
12A chyfododd, ac yna cymerth ei wely, ac aeth ymaith yng ngŵydd pawb, nes synnu o bawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Ni welsom erioed y fath beth.”
13Ac aeth allan drachefn i lan y môr; a’r holl dyrfa a ddeuai ato, a dysgai yntau hwynt.
14Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alpheus yn eistedd wrth y dollfa, a dywed wrtho, “Dilyn fi.” A chyfododd yntau a dilynodd ef.
15Ac fe ddigwydd ei fod ar bryd bwyd yn ei dŷ; a llawer o dollwyr a phechaduriaid oedd yn cyd-fwyta â’r Iesu a’i ddisgyblion; canys yr oeddynt yn llawer, a dilynent ef.
16A’r ysgrifenyddion o blith y Phariseaid, yn gweled ei fod yn bwyta gyda’r pechaduriaid a’r tollwyr, a ddywedai wrth ei ddisgyblion, “Paham y mae’n bwyta gyda’r tollwyr a’r pechaduriaid?”
17A phan glywodd yr Iesu, dywedodd wrthynt, “Nid rhaid i’r cryfion wrth feddyg, ond i’r cleifion; ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.”
18Ac yr oedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio. A deuant a dywedant wrtho, “Paham yr ymprydia disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid, ac nad ymprydia dy ddisgyblion di?”
19A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas, tra fo’r prïodfab gyda hwynt, ymprydio? Cyhyd ag y mae ganddynt y prïodfab gyda hwynt, ni allant ymprydio.
20Ond fe ddaw dyddiau pan ddyger oddiwrthynt y prïodfab, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnnw.
21Ni wnïa neb glwt o frethyn crai ar fantell hen; onid e, fe dynn y darn llanw oddiwrthi, y newydd oddiwrth yr hen; a gwaeth rhwyg a fydd.
22Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin y crwyn, a’r gwin a gollir, a’r crwyn hefyd. Ond gwin newydd mewn crwyn newydd.”
23A digwyddodd iddo ar y Sabath dramwy drwy’r meysydd yd, a dechreuodd ei ddisgyblion gerdded rhagddynt dan dynnu’r tywys.
24Ac meddai’r Phariseaid wrtho, “Wele, paham y gwnant ar y Sabath yr hyn ni ddylid?”
25Ac ebr yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan ddaeth eisiau arno, a phan newynodd ef a’r rhai oedd gydag ef?
26pa fodd yr aeth i dŷ Dduw pan oedd Abiathar yn archoffeiriad, ac y bwytaodd y torthau gosod,1 Sam. 21:6. y rhai ni ddylai neb eu bwyta ond yr offeiriaid, ac y rhoes hefyd i’r rhai oedd gydag ef?”
27Ac meddai wrthynt, “Y Sabath a wnaethpwyd er mwyn y dyn, ac nid y dyn er mwyn y Sabath;
28ac felly arglwydd yw Mab y dyn hyd yn oed ar y Sabath.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.