1Canys pob archoffeiriad, o ddynion y cymerir ef, a thros ddynion y gosodir ef yn y pethau a berthyn i Dduw i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau,
2a gall gydoddef â’r anwybodus a’r cyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid,
3ac oherwydd y gwendid hwnnw dylai aberthu dros bechodau ar ei ran ei hun fel ar ran y bobl.
4Ac nid iddo’i hun y cymer neb yr urddas, ond ar alwad gan Dduw,
5megis Aaron. Felly ’r Crist yntau, nid ef a’i gogoneddodd ei hun i fod yn archoffeiriad, ond yr hwn a ddywedodd wrtho,
“Fy mab wyt ti, myfi heddiw a’th genhedlais di”;
6megis y dywed hefyd mewn lle arall,
“Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.”
7Yn nyddiau ei gnawd, offrymodd hwn ag uchel lef a dagrau, weddïau ac ymbiliau i’r hwn a allai ei wared ef rhag angau, a chael gwrandawiad o achos ei barchedig ofn;
8ac er mai mab ydoedd, fe ddysgodd ufudd-dod drwy ei ddioddefiadau,
9ac ar ôl ei berffeithio, daeth i bawb sydd yn ufuddhau iddo, yn awdur iachawdwriaeth dragwyddol,
10wedi ei gyfarch gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
11Am hwn y mae gennym lawer i’w ddywedyd sydd yn anodd ei egluro gan eich bod wedi myned yn drwm eich clyw.
12Canys pan ddylech, yn ôl amser, fod yn athrawon, y mae arnoch eisiau eto rywun i ddysgu i chwi elfennau cyntaf oraclau Duw, ac y mae hi wedi dyfod yn eisiau llaeth arnoch ac nid bwyd sylweddol.
13Canys y mae’r neb sydd yn byw ar laeth yn anghyfarwydd ag athrawiaeth cyfiawnder, oherwydd baban ydyw.
14Ond peth i bobl lawn dwf yw bwyd sylweddol, y rhai sydd, drwy ymarfer, â’u synhwyrau wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.