1Byddwch, felly, efelychwyr Duw, fel plant annwyl,
2a rhodiwch mewn cariad, fel y carodd Crist chwithau a’i roddi ei hunan drosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, yn aroglau peraidd.
3Ond puteindra a phob aflendid neu drachwant, nac enwer chwaith yn eich plith, fel y mae’n weddus i saint,
4a budreddi ac ynfyd siarad neu goegni, pethau sy’n annheilwng, — ond, yn hytrach, diolch.
5Canys yr ydych yn gwybod hyn, a chwi’n deall am bob puteiniwr neu aflan neu drachwantus, — hynny yw, eilunaddolwr, — nad oes iddo gyfran yn nheyrnas Crist a Duw.
6Na thwylled neb chwi â gwag eiriau; canys oherwydd y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar feibion yr anufudd-dod;
7na fyddwch, felly, gyd-gyfranogion â hwy,
8canys tywyllwch oeddech gynt, ond, yn awr, goleuni yn yr Arglwydd. Rhodiwch fel plant goleuni,
9canys y mae ffrwyth y goleuni mewn pob ewyllys da ac uniondeb a chywirdeb,
10gan ddyfalchwilio beth sydd yn rhyngu bodd yr Arglwydd.
11Ac na foed gennych ran yng ngweithredoedd di-ffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach argyhoeddwch hwynt, —
12oherwydd cywilyddus yw hyd yn oed enwi’r pethau a wneir yn ddirgel ganddynt;
13gwneir popeth, wrth ei argyhoeddi, yn amlwg gan y goleuni, canys pob peth sydd yn dyfod i’r amlwg, goleuni yw.
14Am hynny y dywed,
Deffro, gysgadur,
a chyfod o feirw,
a Christ a dywynna arnat.
15Edrychwch, felly, yn graff sut yr ydych yn rhodio, nid fel annoethion ond fel doethion,
16gan brynu’r amser, gan fod y dyddiau’n ddrwg.
17Am hynny na fyddwch ddisynnwyr, ond deellwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18Ac na feddwer chwi ar win, — canys yn hyn y mae afradlonedd, — ond llanwer chwi â’r ysbryd,
19gan ymddiddan â’ch gilydd mewn salmau ac emynau a cherddi ysbrydol, a chanu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd,
20a diolch bob amser am bopeth yn enw ein Harglwydd ni, Iesu Grist, i Dduw a’r Tad,
21gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Crist, —
22y gwragedd i’w gwŷr eu hunain fel i’r Arglwydd.
23Canys y gŵr yw pen y wraig fel y mae’r Crist yntau yn ben yr eglwys, yntau’n iachawdwr y corff.
24Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i’r Crist, felly hefyd y gwragedd i’r gwŷr ym mhopeth.
25Y gwŷr cerwch eich gwragedd fel y carodd y Crist yntau yr eglwys ac y rhoes ef ei hun drosti,
26er mwyn ei santeiddio ar ôl ei glanhau â’r olchfa ddŵr ynghyd â’r gair,
27fel y gosodai yr eglwys ger ei fron yn ogoneddus, heb arni frycheuyn na chrychni, na dim o’r fath, ond ei bod yn santaidd a difai.
28Felly y dylai’r gwŷr hefyd garu eu gwragedd eu hunain fel eu cyrff eu hunain. Y mae’r hwn sy’n caru ei wraig ei hun, yn ei garu ei hunan,
29oherwydd ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun ond y mae’n ei feithrin a’i anwesu, fel Crist hefyd yr eglwys,
30canys aelodau ydym o’i gorff ef.
31Am hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac yr ymlŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.
32Mawr ydyw’r dirgelwch hwn, — cyfeirio yr wyf at Grist ac at yr eglwys.
33Beth bynnag, chwithau hefyd, cared pob un ohonoch ei wraig megis ef ei hun, a’r wraig, ofned ei gŵr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.